
Coronafeirws - gwybodaeth ar gyfer ysgolion/colegau
Byddwn yn parhau i ddilyn arweiniad Llywodraeth Cymru a bydd ein gwybodaeth yn seiliedig ar eu cyngor nhw.
Y Sefyllfa Ddiweddaredig o ran Ysgolion Abertawe'n dychwelyd i Ddysgu Wyneb yn Wyneb
Ysgolion Cynradd 15 Mawrth 2021
Disgwylir i bob disgybl cynradd fod yn yr ysgol ar y dyddiad hwn. Disgwyliwn y bydd disgyblion blwyddyn 3, blwyddyn 4, blwyddyn 5 a blwyddyn 6 yn dychwelyd ar 15 Mawrth i ymuno â phlant yn y cyfnod sylfaen. Bydd prydau ysgol yn cael eu cynnig i'r ysgol gyfan ar ôl dychwelyd o'r 15fed.
Ysgolion Uwchradd 15 Mawrth 2021
Ar draws Abertawe, mae blynyddoedd 11 a 13 yn dychwelyd ar 15 Mawrth 2021.
Ar draws Abertawe, mae blynyddoedd 10 a 12 yn dychwelyd ar 18 Mawrth 2021.
Bydd blynyddoedd 7, 8 a 9 yn cael cyfle i fod yn bresennol am un diwrnod rhwng 15 Mawrth a 26 Mawrth. Bydd eich ysgol leol yn rhoi gwybod i chi beth yw eu trefniadau.
Bydd pob disgybl uwchradd yn dychwelyd i'r ysgol ar ôl y Pasg ar ddydd Mawrth 13 Ebrill 2021 (bydd dydd Llun 12 Ebrill yn ddiwrnod cynllunio, ac ni fydd dysgu ar y safle ar gael i unrhyw blant ar y diwrnod hwn).
Pan fydd disgyblion oed uwchradd yn dechrau dychwelyd o 15 Mawrth, rydym yn disgwyl iddynt ddod â phecyn cinio hyd at 26 Mawrth. Rydyn ni'n gobeithio dechrau gweini prydau poeth ar ôl y Pasg.
Mae manylion llawn ar gael yn y llythyr diweddaraf at rieni gan y Cyfarwyddwr Addysg:
Llythyr i rieni a gwarcheidiaid 5 Mawrth 2021 (PDF, 151KB)Yn agor mewn ffenest newydd.
Y diweddaraf am achosion COVID-19 yn ein hysgolion
Mae ein hysgolion yn gweithredu ar unwaith cyn gynted ag y mae'n hysbys bod disgybl neu aelod o staff wedi profi'n bositif am COVID-19.
Amddiffyn ein disgyblion a'n staff yw ein prif flaenoriaeth, yn ogystal â theuluoedd a'r gymuned ehangach, a dyna pam yr ydym yn dilyn nifer o gamau clir.
Gall y camau gynnwys gofyn i grwpiau dosbarth neu grwpiau blwyddyn hunanynysu os ydynt wedi bod mewn cysylltiad â'r person sydd wedi profi'n bositif. Anfonir llythyrau at rieni disgyblion sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r person sydd wedi profi'n bositif i roi gwybod iddynt am yr hyn y mae angen iddynt ei wneud. Rhoddir gwybod i rieni plant eraill yn yr ysgol hefyd drwy anfon llythyr.
Ein neges i deuluoedd yw y dylent wrando ar gyngor penaethiaid yr ysgol a'r wybodaeth sydd yn y llythyrau y maent yn eu derbyn, sy'n cynnwys yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnynt i weithredu ac aros yn ddiogel.
Byddwn yn parhau i ddilyn arweiniad Llywodraeth Cymru a bydd ein gwybodaeth yn seiliedig ar eu cyngor nhw.
Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf am leoliadau addysgol a gofal plant yn https://llyw.cymru/addysg-coronafeirws
Gellir cael gwybodaeth ar gyfer colegau drwy ddefnyddio'r dolenni canlynol: