Budd-daliadau i bobl oedran gwaith
Ystyrir bod hawlwyr budd-daliadau yn 'oedran gweithio' o'u pen-blwydd yn 16 oed nes oedran pensiwn menywod. O 2018, 65 oed fydd yr oedran pensiwn ar gyfer dynion a menywod, a bydd yn codi i 66 erbyn 2020.
Mae'r rheolau ynghylch hawliadau budd-dal ar gyfer pobl 16 a 17 oed yn gymhleth ac mae angen bodloni rheolau ychwanegol. Dylid ceisio cyngor ar gyfer y grŵp oedran hwn.
Gall hawlwyr oed gweithio gael eu rhoi mewn un o dri grŵp:
1) Hawlwyr nad ydynt yn barod i weithio neu'n gallu gweithio ar hyn o bryd: Gallai hyn fod oherwydd salwch neu cyfrifoldebau gofalu;
2) Hawlwyr yr ystyrir eu bod yn barod i weithio; neu
3) Hawlwyr sydd eisoes mewn gwaith.
Mae prif fudd-daliadau oed gweithio'n cynnwys:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (a ddisodlodd y Budd-dal Analluogrwydd/Lwfans Anabledd Difrifol/Cymhorthdal Incwm i'r rhai nad ydynt yn gallu gweithio)
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Credydau Treth Gwaith
- Credydau Treth Plant
- Budd-dâl Tai
- Gostyngiad Treth y Cyngor
- Credyd Cynhwysol
- Taliad Annibyniaeth Personol (a ddisodlodd Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer y rheiny sy'n 16 oed ac yn hŷn a dan 65 oed ar 8 Ebrill 2013)
Beth yw Credyd Cynhwysol (PDF, 221KB)Yn agor mewn ffenest newydd