Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau Cyffredin am wasanaethau ailalluogi preswyl

Rhestr o'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am wasanaethau ailalluogi preswyl.

Beth yw gwasanaeth ailalluogi?

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Sut bydd yr uned asesu'n helpu?

Beth fydd yn digwydd os bydd angen cefnogaeth arnaf gartref ar ôl i mi adael?

Sut gallaf drefnu i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Oes unrhyw beth penodol y mae angen i mi ddod ag ef?

Am faint o amser y mae'r gwasanaeth ar gael?

Alla i aros yn y tymor hir?

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn y gwasanaeth ailalluogi?

A fydd angen i mi drefnu cludiant adref?

Beth fydd yn digwydd os oes gen i gefnogaeth gofal cartref eisoes?

Beth yw'r oriau ymweld?

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi ddychwelyd adref?

Oes rhaid talu am y gwasanaeth?

 

 

Beth yw gwasanaeth ailalluogi?

Mae'r gwasanaeth ailalluogi yn uned breswyl arbenigol mewn, Tŷ Bôn-y-maen, ond ar wahân iddo. Mae tîm ailalluogi arbenigol sy'n cynnwys nyrs, therapyddion, gweithwyr cymdeithasol a staff gofal a fydd yn gweithio gyda chi i'ch helpu i adennill galluoedd rydych wedi'u colli neu ddysgu ffyrdd newydd o wneud pethau drosoch eich hunan. Bydd pob ymdrech yn canolbwyntio ar eich dychwelyd adref gyda chefnogaeth barhaol fel y bo'n briodol.

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Mae'r gwasanaeth ar gyfer oedolion sy'n dymuno aros yn eu cartrefi eu hunain ac mae angen cyfnod byr o ofal a chefnogaeth arnynt er mwyn i hyn fod yn bosib. Gallai hyn gynnwys pobl sydd yn eu cartrefi eu hunain ar hyn o bryd, ond mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt. Er enghraifft, gallai salwch diweddar olygu bod rhywun yn rhy wan i ymdopi'n annibynnol nes eu bod wedi gwella'n llwyr neu wedi dysgu sgiliau newydd.

Gallai hefyd fod ar gyfer rhywun sydd yn yr ysbyty y mae angen cefnogaeth arno i adennill sgiliau a hyder i allu dychwelyd adref i fyw'n annibynnol.

Sut bydd yr uned asesu'n helpu?

Bydd y Gwasanaeth Ailalluogi yn darparu'r holl ofal a chefnogaeth broffesiynol angenrheidiol i fanteisio i'r eithaf ar eich annibyniaeth o'r funud y cyrhaeddwch yn Nhŷ Bôn-y-maen, gyda'r nod clir o'ch cael yn ôl yn eich cartref cyn gynted â phosib. Gallai'r gefnogaeth hon gynnwys ymweliadau cartref a chyfnodau a dreuliwyd gartref.

Beth fydd yn digwydd os bydd angen cefnogaeth arnaf gartref ar ôl i mi adael?

Os oes angen cefnogaeth barhaus gartref arnoch ar ôl i chi adael y Gwasanaeth Ailalluogi, bydd y staff sydd wedi bod yn gweithio gyda chi yno yn darparu'ch cefnogaeth gartref tan fod y pecyn cefnogaeth tymor hir yn ei le.

Sut gallaf drefnu i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'n rhaid i bobl gael eu cyfeirio i'r gwasanaeth hwn gan weithiwr cymdeithasol neu ymarferydd proffesiynol gofal iechyd.

Cyn y gallwch fynd i'r Gwasanaeth Ailalluogi bydd angen i chi siarad ag un o'n staff am eich amgylchiadau. Gwneir hyn er mwyn sicrhau mai'r Gwasanaeth Ailalluogi yw'r lle mwyaf priodol i ddarparu cefnogaeth i chi. Yn ystod y sgwrs hon efallai y caiff dewisiadau eraill ar gyfer darparu gofal a chefnogaeth yn y cartref eu hystyried hefyd.

Unwaith y byddwn wedi cytuno bod y Gwasanaeth Ailalluogi yn addas i chi, byddwn yn gwneud trefniadau ar gyfer eich arhosiad a gweithio gyda chi er mwyn i chi fynd adref cyn gynted â phosib.

Cysylltwch â'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol i drafod eich sefyllfa

Oes unrhyw beth penodol y mae angen i mi ddod ag ef?

Bydd angen arnoch newid o ddillad a gwisg nos yn ogystal â'r pethau ymolchi arferol a dillad ar gyfer eich taith adref. Hefyd, dewch â'ch holl feddyginiaeth bresennol, unrhyw gymhorthion symudedd rydych chi'n eu defnyddio a chyflenwad o'r cynnyrch dal dŵr rydych chi'n eu defnyddio.

Am faint o amser y mae'r gwasanaeth ar gael?

Mae'r gwasanaeth yn un tymor byr, wedi'i gyfyngu gan amser sy'n canolbwyntio ar dargedau. Mae arosiadau wedi'u cyfyngu i chwe wythnos fel arfer, ond mae am faint o amser yn union y bydd angen i chi aros yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, ac mae llawer o bobl yn aros am lai na chwe wythnos. Byddwn yn ceisio cadw'ch arhosiad mor fyr â phosib er mwyn i chi ddychwelyd adref cyn gynted ag y gallwch ymdopi â hynny, gyda neu heb ofal a chefnogaeth barhaus e.e. gofal cartref.

Alla i aros yn y tymor hir?

Nid yw'n bosib newid eich arhosiad yn y Gwasanaeth Ailalluogi ofal preswyl tymor hwy yn Nhŷ Bôn-y-maen. Ar ddiwedd eich arhosiad, os cytunir mai rhagor o ofal preswyl neu nyrsio tymor hir yw'r opsiwn i chi, caiff trefniadau eu gwneud i ddiwallu'ch anghenion gofal yn y dyfodol. Wrth i'r opsiynau hyn gael eu hystyried, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio cyfleusterau seibiant.

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn y gwasanaeth ailalluogi?

Yn ystod y 7-10 diwrnod gyntaf eich arhosiad byddwn yn trefnu cyfarfod i drafod eich anghenion cefnogi a dechrau cynllunio ar gyfer eich dychweliad adref.

Bydd staff yn yr uned, ynghyd â'r Gwasanaethau Cymdeithasol a staff gofal iechyd yn eich cymuned, yn gweithio gyda chi i fagu eich cryfder, eich sgiliau a'ch hyder.

Efallai bydd y staff yn archwilio ffyrdd y gallai technoleg gynorthwyol eich helpu pan fyddwch yn dychwelyd adref. Byddai hyn yn cynnwys cyfleoedd i roi cynnig ar gyfarpar gwahanol a fydd yn diwallu'ch anghenion.

Wrth i chi ddatblygu, efallai byddant yn trefnu i chi gael ymweliadau cartref a chyfnodau o amser yn eich cartref gyda gofal a chefnogaeth a hebddo, fel y gallwch ddychwelyd adref yn barhaol cyn gynted â phosib.

A fydd angen i mi drefnu cludiant adref?

Yn ystod eich arhosiad, eich cyfrifoldeb chi fydd cludiant i'ch cartref ac oddi yno. Mewn amgylchiadau eithriadol, gallwn wneud trefniadau gwahanol.

Beth fydd yn digwydd os oes gen i gefnogaeth gofal cartref eisoes?

Os ydych eisoes yn derbyn cefnogaeth gofal cartref gan asiantaeth breifat a drefnir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, ni fyddwch yn ei derbyn yn ystod y cyfnod y byddwch yn y Gwasanaeth Ailalluogi. Os ydych wedi trefnu gofal neu gefnogaeth breifat eich hun, bydd angen i chi wneud eich trefniadau eich hun gyda'r darparwr. Darperir y gofal a'r gefnogaeth angenrheidiol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a staff iechyd, yn y Gwasanaeth Ailalluogi ac yn ystod eich ymweliadau cartref.

Beth yw'r oriau ymweld?

Mae croeso i'ch teuluoedd a'ch ffrindiau ymweld â chi tra'ch bod yn Nhŷ Bonymaen.

Nid oes gennym oriau ymweld penodol, ond gofynnwn i bobl ystyried adegau bwyta ac osgoi ymweld ar yr adegau hyn os oes modd.

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn dychwelyd adref?

Cyn i chi ddychwelyd adref, byddwn yn ystyried pa ofal a chefnogaeth y gallai fod eu hangen arnoch yn y tymor hir.

Bydd angen i unrhyw becyng gofal cartref gael ei drefnu gyda Tîm Gwasanaethau Asesu Gofal Preswyl (RCAS).

Ar ôl i chi ddychwelyd adref, tra'ch bod dan ofal RCAS, bydd y staff therapi galwedigaethol sy'n rhan o'r Gwasanaeth Ailalluogi'n gallu cynnig mewnbwn a chefnogaeth os oes angen.

Bydd eich asesiad yn parhau pan ddychwelwch adref gyda'r Tîm RCAS, a fydd yn asesu sut rydych yn ymdopi gartref, faint o alwadau mae eu hangen arnoch a hyd y galwadau hyn. Pan fydd staff gofal RCAS yn fodlon bod eich pecyn gofal yn iawn i chi, byddant yn rhoi'ch pecyn galwadau ar restr frocera ac yna bydd asiantaeth breifat yn parhau â'ch galwadau. Cyn i'r asiantaeth breifat gymryd drosodd o RCAS, bydd cyfarfod rhyngoch chi, RCAS a'r asiantaeth ofal newydd fel y gall ddod i'ch adnabod.

Oes rhaid talu am y gwasanaeth?

Ni chodir tâl ar gyfer eich arhosiad yn ystod eich cyfnod asesu. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o ychydig o ddyddiau i hyd at 6 wythnos.

Efallai y bydd angen i nifer bach o bobl aros yn Nhŷ Bôn-y-maen am fwy na 6 wythnos. Yn yr achos hwnnw, codir tâl arnoch am bob nos y byddwch yn aros y tu hwnt i'r 6 wythnos. Bydd yr union gost yn dibynnu ar lefel eich cynilion ac a ydych yn cael budd-daliadau (e.e. credyd pensiwn, lwfans gweini). Caiff asesiad ariannol ei gynnal i bennu'r union gost i chi.

Pan fydd eich asesiad wedi'i gwblhau, os bydd angen arnoch gefnogaeth gofal breswyl neu gartref barhaol, codir tâl arnoch ar y gyfradd bresennol am y gwasanaethau hyn.

Close Dewis iaith