Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin - prydlesu

Cwestiynau cyffredin ar gyfer ein lesddeiliaid

Contractau a chyfrifoldebau

Tâl gwasanaeth a rhent tir

Yswiriant, gwaith sylweddol ac atgyweiriadau

 

Contractau a chyfrifoldebau

Beth yw prydles?

Contract rhwng landlord (y cyngor) a lesddeiliad (chi) sy'n eich rhwymo mewn cyfraith yw prydles. Mae'n pennu hawliau a rhwymedigaethau'r ddau barti. Felly, caiff ei ofynion eu gorfodi - nid oes modd i'r naill barti na'r llall gefnu ar brydles.

Cyn i chi brynu'ch eiddo, dylai'ch cyfreithiwr fod wedi esbonio'ch prydles yn llawn fel eich bod yn deall eich cyfrifoldebau fel lesddeiliad a chyfrifoldebau'r cyngor fel landlord. Dylech fod wedi derbyn copi o'ch prydles gan eich cyfreithiwr.

Bydd cynllun sy'n dangos eich eiddo wedi'i atodi i'ch prydles. Bydd y cynllun hwn hefyd yn cyfeirio at unrhyw ardaloedd cymunedol y gall fod gennych hawl i'w defnyddio, ar y cyd â phreswylwyr fflatiau eraill gerllaw.

Fel arfer, mae prydles yn para 125 o flynyddoedd ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dechrau o'r dyddiad pan werthwyd eiddo yn y bloc am y tro cyntaf. Os prynoch eich cartref gan lesddeiliad arall, bydd gennych hawl i fyw yno am y nifer o flynyddoedd sydd ar ôl ar y brydles wreiddiol.

Beth yw fy nghyfrifoldebau fel lesddeiliad?

Fel lesddeiliad, rydych yn gyfrifol am gadw tu mewn eich cartref mewn cyflwr da.

Mae hyn yn cynnwys:

  • plastr ac arwynebau eraill lloriau, waliau a nenfydau
  • addurniadau yn eich cartref
  • drysau mewnol a'u fframiau
  • gosodiadau a ffitiadau megis unedau cegin, baddonau, toiledau a sinciau
  • systemau gwres, pibellau, tanciau dŵr, ceblau, plymwaith, draeniau a rheiddiaduron
  • atgyweirio a chynnal a chadw ffitiadau a chyfarpar nwy a thrydan
  • ysgubo a glanhau ffliwiau neu simneiau
  • eich gardd (os oes un gennych)

Mae'n rhaid i chi drefnu i unrhyw waith atgyweirio a chynnal a chadw y tu mewn i'ch cartref gael ei wneud a thalu'n llawn am y gwaith hwn.

Hefyd, mae'n rhaid i chi:

  • dalu tuag at gost atgyweirio a chynnal a chadw'r adeiledd, tu allan eich cartref ac unrhyw ardaloedd cymunedol (fel arfer, rydych yn gwneud hyn drwy eich tâl gwasanaeth, ond weithiau caiff tâl ychwanegol ei godi)
  • caniatáu mynediad i'ch cartref er mwyn archwilio cyflwr yr adeilad
  • derbyn caniatâd ysgrifenedig gan y cyngor cyn newid adeiledd eich cartref neu ychwanegu ato
  • defnyddio'ch cartref fel annedd breifat yn unig
  • peidio ag achosi unrhyw niwsans i'ch cymdogion
  • peidio â chamddefnyddio unrhyw ardd neu godi unrhyw ffens ar unrhyw ardal a rennir neu hawl tramwy a rennir
  • peidio â rhwystro unrhyw ardaloedd cymunedol na mynediad i'r adeilad

Fel y lesddeiliad/tenant, rydych yn gyfrifol am ymddygiad unrhyw ymwelwyr, lletywyr neu denantiaid sy'n ymweld â'ch cartref neu'n aros ynddo.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn trefnu i beiriannydd gwresogi â chofrestriad CORGI wasanaethu'ch cyfarpar nwy unwaith y flwyddyn.

Beth yw cyfrifoldebau'r cyngor?

Mae eich prydles yn cynnwys manylion llawn am ein cyfrifoldebau. Gan ddibynnu ar y math o brydles, gall y rhestr ganlynol amrywio. Rydym yn gyfrifol am atgyweirio adeiledd yr adeilad a'r tu allan i'ch cartref, gan gynnwys:

Ardaloedd cymunedol

  • y cyntedd, grisiau a'r landin
  • cyfleusterau cymunedol megis lifftiau a systemau mynediad drws
  • ardaloedd cymunedol ac ardaloedd sychu
  • unrhyw ddrysau allanol a rennir gan gynnwys siediau
  • ardaloedd sbwriel
  • trydan/goleuadau/gwres cymunedol
  • plymwaith y prif gyflenwad dŵr a draeniad yn yr ardaloedd cymunedol

Adeiledd yr adeilad

  • adeiledd waliau, toeon a sylfeini allanol
  • fframiau ffenestri a simneiau
  • drysau - blaen a chefn a balconi

Y tu allan i'ch cartref

  • paentio y tu allan
  • cafnau, pibellau dŵr a blychau eira
  • gwaith coed allanol gan gynnwys atgyweirio drysau allanol a siediau
  • erial teledu cymunedol (os yw'n berthnasol)

Er ein bod yn gyfrifol am drefnu a chwblhau gwaith atgyweirio a chynnal a chadw, yn ôl telerau'ch prydles, mae'n rhaid i chi gyfrannu at y gost drwy eich tâl gwasanaeth.

Byddwn yn rhoi manylion eglur sut byddwn yn codi tâl arnoch am unrhyw waith a wneir i'ch eiddo neu i'r bloc.

Rydw i'n rhentu/gwerthu fy fflat, oes rhaid i mi roi gwybod i'r cyngor?

Mae'n bwysig bod gennym fanylion cywir perchnogion ein fflatiau sydd ar brydles. Sicrhewch eich bod yn rhoi'r newyddion diweddaraf am unrhyw newidiadau o ran perchnogaeth, enwau a rhifau ffôn i'r Swyddog Lesddaliadau.

 

Tâl gwasanaeth a rhent tir

Beth mae'r tâl gwasanaeth yn talu amdano?

Caiff taliadau gwasanaeth eu talu gan lesddeiliaid er mwyn talu am y gost i ni atgyweirio, cynnal a chadw mannau cymunedol a ffabrig ac adeiledd allanol yr adeilad, a darparu yswiriant a gwasanaethau i'r eiddo.

Gall gynnwys:

  • costau gweinyddu
  • paentio allanol
  • goleuadau cymunedol
  • gwasanaethau gofalwr
  • yswiriant yn erbyn mathau penodol o ddifrod
  • atgyweirio a chynnal a chadw adeiledd yr adeilad
  • atgyweirio'r mannau cymunedol
  • unrhyw waith sy'n angenrheidiol i gywiro neu ddisodli problemau adeileddol gyda'r adeilad a'i rannau cysylltiedig

Sut caiff taliadau gwasanaeth eu cyfrifo?

Caiff taliadau gwasanaeth eu cyfrifo mewn cylchoedd blynyddol sy'n cyfateb i'r flwyddyn ariannol, sef 1 Ebrill i 31 Mawrth.

Pan fyddwch yn prynu eiddo ar brydles, bydd angen i chi dalu tâl gwasanaeth. Bydd cyfnod y tâl gwasanaeth yn para o ddyddiad cwblhau'r cytundeb tan 31 Mawrth y flwyddyn ariannol honno.

Bob blwyddyn ar ôl hyn, byddwch yn derbyn anfoneb ar gyfer taliadau gwasanaeth ac atodlen.

Dengys yr atodlen ddadansoddiad o'r costau sydd ynghlwm wrth y tâl gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys swm ar gyfer:

  • swasanaethau arbennig
  • amcangyfrif o'r costau cynnal a chadw
  • premiwm yswiriant
  • costau rheoli

Swm y tâl gwasanaeth a nodir ar yr atodlen yw'r tâl gwasanaeth blynyddol llawn ar gyfer y flwyddyn.

Dylech bob amser gyllidebu i dalu swm llawn y tâl gwasanaeth.

Mewn rhai achosion gallech fod yn gymwys i gael bil gostyngedig.

Ni fydd hyn yn digwydd oni bai nad oes llawer o waith cynnal a chadw neu unrhyw waith cynnal a chadw wedi'i wneud i'r bloc o fflatiau lle rydych yn byw. Caiff y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrif o'r gost a nodir ar yr atodlen a chost wirioneddol y gwaith ei gadw 'mewn ymddiriedolaeth' mewn cyfrif eiddo.

Os yw balans y cyfrif yn llai na £300 mewn credyd, byddwch yn derbyn anfoneb ar gyfer y tâl gwasanaeth llawn.

Os oes gan y cyfrif rhwng £300 a £749 ynddo, mae'n debygol y bydd hyn yn ddigonol i dalu am y costau cynnal a chadw a amcangyfrifwyd. Yn y fath achosion, byddwch yn derbyn anfoneb yn gofyn am dâl ar gyfer y premiwm yswiriant a'r tâl rheoli'n unig.

Os oes gan y cyfrif £750 neu fwy ynddo, ni fyddwch yn derbyn anfoneb.

Cyflwynir anfonebau fel arfer ym mis Hydref/mis Tachwedd.

Cyfrif sy'n creu llog yw'r cyfrif eiddo ac mae unrhyw swm a ddelir mewn credyd yn ennill llog.

Sut mae fy nhâl gwasanaeth yn cael ei gyfrifo?

Mae'r tâl yn seiliedig ar amcangyfrif o gostau cynnal a chadw ar gyfer y flwyddyn a gwir gostau premiwm yswiriant yr adeilad a'r tâl rheoli. Darperir rhestr o'r taliadau hyn a dadansoddiad ohonynt gyda'r anfoneb.

Diben anfonebu lesddeiliaid bob blwyddyn ar sail amcangyfrif yw codi swm safonol bob blwyddyn, felly maent yn gallu cyllidebu ar ei gyfer. Pe byddai'r tâl gwasanaeth yn seiliedig ar y gwir gost, byddai'r biliau'n amrywio'n fawr bob blwyddyn.

Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, mae'r gwir gostau a'r taliadau a wnaed ar gyfer pob eiddo prydlesol yn cael eu cyfrifo. Lle bo'r costau'n ymwneud â mannau neu gyfleusterau cymunedol, mae'r costau'n cael eu rhannu ar sail nifer yr eiddo ym mhob bloc. Mae'r ffigurau hyn yn cael eu cofnodi yng nghyfrif unigol yr eiddo prydlesol ac mae unrhyw wahaniaeth rhwng y swm sydd wedi'i anfonebu a'r gwir gostau yn cael ei gadw mewn ymddiriedolaeth gan y cyngor. Bydd lesddeiliaid yn derbyn datganiad o gyfrif eu heiddo, ynghyd â dadansoddiad o'r gwir gostau sydd wedi codi, ar ddiwedd pob blwyddyn.

I atal credyd sylweddol rhag cronni rydym yn gweithredu system 'anfonebau gostyngol'. Lle bo credyd o fwy na £300 wedi cronni ar gyfrif eiddo lesddeiliad, caiff anfoneb y lesddeiliad ar gyfer y flwyddyn nesaf ei gostwng fel ei fod yn talu'r tâl rheoli a'r tâl yswiriant yn unig. Os oes mwy na £750 o gredyd ar gyfrif yr eiddo, ni chaiff y lesddeiliad ei anfonebu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Beth yw rhent tir?

Hwn yw'r rhent ar gyfer y tir y mae'ch eiddo wedi'i adeiladu arno ac mae'n berthnasol i eiddo prydlesol yn unig.

Yn ogystal â'ch bil tâl gwasanaeth blynyddol, byddwn yn anfon bil ar wahân am rent tir atoch. Y gost yw £10 y flwyddyn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am rent tir, ffoniwch yr Adran Eiddo Corfforaethol yn y Ganolfan Ddinesig ar 01792 637655.

Sut ydw i'n talu fy anfoneb tâl gwasanaeth?

Talu ar-lein nawr Talu

Bancio ar-lein neu drosglwyddiad BACS

Talu: Dinas a Sir Abertawe

Côd Didoli: 30-00-00

Rhif y Cyfrif: 00283290

Banc: Lloyds Bank, 802 Stryd Rhydychen, Abertawe SA1 3AF

Dyfynnwch rif yr anfoneb ar bob taliad.

Am fanylion CHAPS, IBAN, BIC neu DUNS ffoniwch Gyfrifon Derbyniadwy ar 01792 635847 neu e-bost cyfrifon.derbyniadwy@abertawe.gov.uk

Trwy gyfleuster talu dros y ffôn awtomataidd

Ffôn: 0300 456 2765 i dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd gan ddefnyddio'r cyfleuster talu 24 awr. Dewiswch yr opsiwn 'Anfonebau'r Cyngor'.

Drwy'r post

Mae sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a dylid eu hanfon at: Y Prif Ariannwr, Adran Gyllid, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA13SN. Croeswch bob siec, ysgrifennwch rif yr anfoneb ar y cefn ac atodwch y slip taliad i waelod eich anfoneb. I gael derbynneb, dychwelwch yr anfoneb gyfan gyda'ch siec. Peidiwch ag anfon arian parod neu sieciau wedi'u hôl-ddyddio.

Yn bersonol

Yn y Ganolfan Ddinesig neu yn unrhyw swyddfa dai ardal (taliadau gyda cherdyn yn unig yng Ngorseinon).

Taliadau mewn Swyddfeydd Post

Talwch mewn unrhyw Swyddfa Bost (bydd ffi'n daladwy) gan ddyfynnu rhif yr anfoneb a rhif cyfrif Girobank y cyngor: 466 4450.

Taliad drwy archeb reolaidd (misol)

Os nad oes modd i chi dalu'ch bil yn llawn neu os yw'n fwy cyfleus i chi dalu'n fisol drwy archeb reolaidd drwy'ch banc, gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Adran Gyllid ar 01792 635847 a fydd yn falch o drefnu hyn i chi. 

Taliadau hwyr

Sylwer efallai bydd yr awdurdod yn codi llog o 8% yn ogystal â chyfradd sylfaenol Banc Lloegr ar arian sydd wedi bod yn ddyledus am dros 28 niwrnod.

NI dderbynnir y cardiau canlynol: American Express, Diners Club, Electron.

Beth sy'n digwydd os nad wyf yn talu'r ffi tâl gwasanaeth ar amser?

Byddwch yn derbyn nodyn atgoffa. Os oes gennych broblemau ariannol ac rydych yn ei chael hi'n anodd talu'ch taliadau gwasanaeth, cysylltwch â'r Swyddog Lesddaliadau​​​​​​​ sy'n gallu eich cynghori. Byddwch yn gallu talu'n fisol os yw hyn yn fwy cyfleus i chi.

Os na fyddwn yn clywed gennych, byddwn yn ystyried cymryd camau pellach er enghraifft:

  • achos yn y Llys Sirol
  • rhoi gwybod i'ch benthyciwr morgais eich bod mewn ôl-ddyledion
  • achos llys i derfynu'ch prydles os nad ydych yn cadw at gytundeb i dalu'r ddyled

Mae'n bwysig eich bod yn gweithio gyda ni i ddatrys y broblem a'ch bod yn rhoi gwybod i ni am eich sefyllfa bresennol. Os nad ydych yn gwneud hyn, gallwn gymryd camau cyfreithiol.

Hoffwn ymholi ynglŷn â fy mil/anfoneb.

Cysylltwch â'r Swyddog Lesddaliadau.

Pryd bydda i'n derbyn fy mil/anfoneb tâl gwasanaeth?

Anfonir anfonebau tâl gwasanaeth ym mis Hydref/Tachwedd fel arfer.

 

Yswiriant, gwaith sylweddol ac atgyweiriadau

Oes rhaid i mi dalu am waith mawr?

Mae 'gwaith mawr' yn cynnwys gwaith ar raddfa fawr sy'n cael ei wneud yn ôl cynllun, er enghraifft adnewyddu to, atgyweiriadau ac addurniadau, gosod lifft newydd, atgyweirio neu adnewyddu ffenestri.

Mae rhwymedigaeth arnom ni, fel eich landlord, i atgyweirio, cynnal a chadw a gwella prif adeiledd a rhannau cyffredin y bloc a'r ystâd. Mae'n rhaid i ni rannu cost y gwaith hwn rhwng yr eiddo perthnasol. Efallai byddwch yn derbyn anfoneb tâl gwasanaeth ychwanegol am eich cyfran chi o gost y gwaith.

Mae'ch rhan chi o gost gwaith mawr yn dal i gael ei hystyried yn dâl gwasanaeth yn ôl telerau'ch prydles, ond, os yw'r gost yn uwch na ffigur penodol, bydd yn rhaid i ni gynnal trefn ymgynghori er mwyn gallu codi tâl priodol ar y lesddeiliaid. Enw'r ymgynghoriad hwn yw 'ymgynghoriad Adran 20' a cheir disgrifiad ohono yn Adran 20 Deddf Landlord a Thenant 1985. Diwygiwyd y gofynion ymgynghori hyn gan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

Beth yw'r dewisiadau talu ar gyfer anfonebau gwaith mawr?

Rydym yn cydnabod y gall fod yn anodd i rai lesddeiliaid dalu am eu cyfran hwy o gost gwaith mawr. Ceir sawl opsiwn gwahanol ar gyfer talu anfoneb eich gwaith mawr, gan gynnwys:

  1. Talu'r anfoneb yn llawn
  2. Benthyciad gan eich benthyciwr morgais/banc neu gymdeithas adeiladu
  3. Our Leaseholder Assistance Scheme
  4. Cynllun benthyciad statudol
  5. Cymorth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau

1. Talu'r anfoneb yn llawn

Gallwch dalu'r anfoneb yn llawn drwy gysylltu â'r Adran Gyllid, a dyfynnu rhif yr anfoneb. Yna cymerir taliad gennych am y swm llawn.

2. Benthyciad gan eich benthyciwr morgais/banc neu gymdeithas adeiladu

Os oes gennych forgais ar eich cartref, efallai y gallech wneud cais am fenthyciad ychwanegol gan eich benthyciwr morgais a gofyn i ail-forgeisio eich cartref.

Os bydd eich benthyciwr morgais yn cytuno i roi benthyciad ychwanegol i chi, efallai y gallech ymestyn cyfnod y morgais a thalu'r un taliadau misol, neu gynyddu'r taliad misol i dalu am y benthyciad ychwanegol.

Dylech gysylltu â'ch benthyciwr morgais yn uniongyrchol i drafod yr opsiwn hwn.

Os nad oes gennych forgais ar hyn o bryd, efallai ei fod yn bosib i chi gael morgais neu fenthyciad i dalu am gostau eich gwaith sylweddol.

Rydym yn awgrymu'n gryf y dylai lesddeiliaid gael cyngor ariannol a chyfreithiol annibynnol cyn cytuno i forgais neu fenthyciad ar eu cartrefi.

3. Ein Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid

Efallai y gallwn roi benthyciad i lesddeiliaid er mwyn talu cost gwaith mawr dros gyfnod estynedig.

Os na all lesddeiliad dalu'r benthyciad, efallai y gallwn roi cymorth ar sail rhannu ecwiti.

Benthyciadau lesddeiliaid

Gall lesddeiliaid gyflwyno cais am fenthyciad gennym i dalu am y gwaith mawr. Rhoddir benthyciadau ar gyfradd llog sefydlog a bennir gan y llywodraeth.

Mae'r cyfnod ar gyfer ad-dalu'r benthyciad yn dibynnu ar swm y benthyciad fel a ddangosir isod:

  • hyd at 10 mlynedd, yn achos benthyciad sy'n llai na £10,000
  • hyd at 20 mlynedd yn achos benthyciad sy'n £10,000 neu'n fwy ond sy'n llai nag £20,000
  • hyd at 25 mlynedd, yn achos benthyciad sy'n £20,000 neu'n fwy

Sicrheir y benthyciadau hyn gan dâl cyfreithiol yn erbyn eich eiddo a chaiff ffi o £550 ar gyfer ein costau gweinyddol a chostau cyfreithiol eu hychwanegu at swm y benthyciad.

Rydym yn awgrymu'n gryf y dylai lesddeiliaid gael cyngor ariannol a chyfreithiol annibynnol cyn cytuno i warantu benthyciad ar eu cartrefi.

Dylech fod yn ymwybodol y gall methu talu ad-daliadau ar y benthyciad olygu y byddwn yn adennill y cyfanswm sy'n ddyledus gennych chi.

Benthyciad sy'n seiliedig ar rannu ecwiti

Os na allwch dalu'r benthyciad, efallai y gallwn roi cymorth ar sail rhannu ecwiti.

Golyga hyn y byddwn yn "benthyg" yr arian i'r lesddeiliad i dalu am anfoneb y gwaith mawr ond ni fydd yn rhaid ad-dalu'r benthyciad nes caiff yr eiddo ar brydles ei werthu/drosglwyddo neu ei ailforgeisio, neu nes bydd y lesddeiliad yn marw.

Sicrheir ein buddsoddiad yn yr eiddo drwy roi morgais neu daliad cyfreithiol ar yr eiddo. Ymdrinnir â swm y benthyciad fel canran gwerth y farchnad yr eiddo.

Enghraifft o fenthyciad rhannu ecwiti

Mae'r enghraifft isod yn dangos sut byddai benthyciad rhannu ecwiti'n gweithio:

  1. Mae angen benthyciad gwerth £15,000 arnoch chi.
  2. Gwerth eich eiddo yw £60,000. Mae hyn yn golygu y byddwn yn benthyca 25% o werth yr eiddo i chi.
  3. Pan gaiff yr eiddo ei werthu (neu mae'n rhaid i chi ad-dalu'r benthyciad am reswm arall) bydd angen i chi ad-dalu 25% o'r pris gwerthu i ni. Felly os caiff eich eiddo ei werthu am £80,000, byddai'n rhaid i chi ad-dalu £20,000. Os caiff ei werthu am £40,000, byddai'n rhaid i chi ad-dalu £10,000.

Gallai'r swm i'w ad-dalu fod yn fwy neu'n llai na swm gwreiddiol y benthyciad gan ddibynnu ar werth eich eiddo pan gaiff y benthyciad ei ad-dalu.

Ychwanegir ffi prisiant gwerth £400 at swm y benthyciad yn ogystal â ffi gwerth £500 i dalu ein costau gweinyddol y cyngor. Ychwanegir costau cyfreithiol at swm y benthyciad hefyd.

Bydd angen i ni gynnal chwiliadau cyfreithiol hefyd er mwyn penderfynu a oes gennych daliadau eraill eisoes wedi'u cofrestru. Os oes, efallai y bydd yn rhaid i ni gael caniatâd gan y partïon eraill cyn cofrestru tâl arall ac efallai y bydd y partïon eraill hyn yn codi ffi am y caniatâd a'ch cyfrifoldeb chi fydd talu.

4. Cynllun benthyciad statudol

Yn ogystal â'n Cynllun Cymorth Lesddeiliaid, mae gofyn i ni ddarparu cynllun Tâl Gwasanaeth Statudol i lesddeiliaid sy'n bodloni meini prawf penodol.

I fod yn gymwys:

  • rhaid i ddyddiad dechrau eich prydles fod llai na 10 mlynedd yn ôl,
  • mae cyfanswm cost eich tâl gwasanaeth am y flwyddyn yn fwy na £2,330, a'r
  • uchafswm y gallwch ei fenthyg yw £30,990.

Caiff y terfynau hyn eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.

Cyfnodau ad-dalu benthyciad statudol

Swm y benthyciad (£)

Cyfnod y benthyciad

£2,330 i £4,999

5 mlynedd

£5,000 neu'n fwy

10 mlynedd

Y llywodraeth sy'n pennu telerau benthyciadau taliadau Gwasanaeth Statudol megis cyfnodau ad-dalu a'r gyfradd llog. Y gyfradd llog ar hyn o bryd yw 3.13%

Byddwch yn gorfod talu ffi weinyddol o £100 (a gaiff ei hychwanegu at swm y benthyciad) a byddwch hefyd yn gyfrifol am eich costau cyfreithiol eich hun. Sicrheir y benthyciad drwy godi tâl ar yr eiddo.

I gael mwy o wybodaeth am yr opsiynau talu, cysylltwch â'r Swyddog Lesddaliadau.

5. Cymorth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Gall fod gan lesddeiliaid sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm neu Gredyd Pensiwn yr hawl i gymorth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn talu am waith mawr.

Ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau fel arfer yn talu am gost y gwaith mawr ond gall eich helpu i dalu unrhyw log a godwyd ar fenthyciad neu forgais sydd wedi ei ddefnyddio i dalu am eich bil gwaith mawr.

Gallwch gael cymorth mewn sawl ffordd. Os ydych yn gymwys, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau weithiau yn caniatáu yr holl gost neu ran o'r gost fel tâl cyfandaliad neu bydd yn talu hwn mewn rhandaliadau trwy gydol y flwyddyn.

Os na all yr Adran Gwaith a Phensiynau ganiatáu'r taliad, gall eich cynghori i gymryd benthyciad neu forgais ond os gwnewch chi hwn, mae'n bosib y gall roi'r llog a dalwyd ar y benthyciad yn unig i chi.

Dylech roi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted ag yr ydych yn derbyn eich anfoneb.

Am fwy o wybodaeth, dylech gysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau leol yn uniongyrchol ar 0845 6060265.

Sut mae rhoi gwybod am waith atgyweirio?

I adrodd am atgyweiriadau rydym yn gyfrifol amdanynt, llenwch ein ffurflen ar-lein: Gwneud cais am atgyweiriad

Atgyweiriadau brys

Ydw i wedi fy yswirio ac ar gyfer beth?

Mae'n un o amodau'ch prydles ein bod yn trefnu yswiriant adeiladau. Mae hyn yn golygu nad oes hawl gennych drefnu'ch yswiriant adeiladau eich hunan. Ar hyn o bryd, OCASA SA sy'n darparu'r yswiriant ar gyfer ein holl eiddo prydlesol.

Caiff eich cyfran chi o gost yr yswiriant adeiladau ei chynnwys yn eich bil tâl gwasanaeth.

Rhoddir 'gwerth yswiriedig' i'ch eiddo, sef cost ailadeiladu'ch cartref, felly mae'n wahanol i wir werth eich cartref ar y farchnad. Bob blwyddyn, rydym yn adolygu'r gwerth yswiriedig i ystyried newidiadau mewn costau ailadeiladu cartref.

Sylwer: NID YW'R yswiriant adeiladau'n berthnasol i gynnwys eich cartref a bydd rhaid i chi drefnu'ch yswiriant cynnwys eich hun.

Er mwyn hawlio neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am hawliad, gallwch gysylltu â'r cwmni sy'n ymdrin â hawliadau am gymorth a gwybodaeth:

Claims Connexion UK Limited, 27 Y Stryd Fawr, Y Bont-faen, Bro Morgannwg CF71 7AE
Ffôn: 01446 771722

Yswiriant adeiladau ar gyfer awdurdodau lleol (Ocaso) (PDF) [98KB]
Ffurflen hawlio yswiriant lesddaliad (Ocaso) (PDF) [24KB]

Ydw i'n gallu gwneud gwelliannau/atgyweiriadau i'm fflat?

Fel lesddeiliad mae'n bosib y byddwch am wella'ch cartref. Gallai hyn gynnwys:

  • gosod gwres canolog
  • gosod dysgl loeren
  • adeiladu ystafell wydr neu gyntedd.

Cyn i chi ddechrau UNRHYW addasiadau a all effeithio ar adeiledd yr adeilad, tu allan yr adeilad neu rai a fydd yn effeithio ar y gwasanaethau cymunedol, mae'n rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig wrthym.

Mae'n rhaid i chi hefyd gael caniatâd yr is-adrannau rheoliadau adeiladu a chynllunio os yw'n angenrheidiol.

Byddwn yn rhoi caniatâd i chi lle bynnag y bo modd.  Weithiau ni fyddwn yn rhoi caniatâd oni bai eich bod yn bodloni amodau penodol. Er enghraifft, os ydych am osod ffenestri newydd, gallwn ofyn i chi ddilyn manyleb benodol sydd wedi'i chymeradwyo gennym.

Os ydych yn gwneud unrhyw welliannau heb ein caniatâd, byddwch yn torri telerau'ch prydles. Yna gallwn gymryd camau cyfreithiol i'ch gorfodi i ddileu'r newidiadau.

Peidiwch â gwneud unrhyw newidiadau yn yr atig neu'r llofft.  Nid yw'r rhan hon o'r bloc o fflatiau fel arfer wedi'i chynnwys yn nhelerau'r brydles.

Rydych yn gyfrifol am atgyweirio unrhyw rai o'r gwelliannau rydych yn eu gwneud yn eich cartref.

I gael gwybodaeth neu ganiatâd am unrhyw welliannau cartref, cyflwynwch y cais yn ysgrifenedig i'r Swyddog Lesddaliadau.

Close Dewis iaith