Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am fridio cŵn

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am fridio cŵn.

Pa amodau sy'n gofyn bod bridiwr yn gorfod cael trwydded bridio o fewn eich awdurdod lleol (e.e. os yw'n bridio dros nifer penodol o dorllwythi)?

Rydym ni'n defnyddio Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 - Bridio cŵn: dehongliad 5.-(1) Mae person yn cynnal y gweithgaredd o fridio cŵn at ddibenion adran 13(1) o'r Ddeddf os yw'n cadw 3 neu ragor o eist bridio mewn mangre, ac:

  1. yn bridio, yn y fangre honno, 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
  2. yn hysbysebu ar werth o'r fangre honno gi neu gŵn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach a roddwyd ar werth yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis;
  3. yn cyfenwi o'r fangre honno gi neu gŵn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis; neu
  4. yn hysbysebu busnes o fridio neu o werthu cŵn bach o'r fangre honno.

Pa mor aml y mae angen iddyn nhw adnewyddu eu trwydded?

Mae angen adnewyddu'r trwyddedau'n flynyddol. Caiff mangreoedd eu harchwilio cyn adnewyddu'r drwydded.

Ydych chi wedi diddymu unrhyw drwyddedau bridiwr?

2023: Dim
2022: Dim
2021: Dim
2020: Dim
2019: Dim

Faint o geisiadau am drwyddedu sefydliad bridio cŵn gafodd eu gwrthod bob blwyddyn o 2010 tan 2023?

Dim.

Beth sy'n digwydd os oes gan aelod o'r cyhoedd bryder am fridiwr cŵn trwyddedig?

Os ydych yn pryderu am arferion bridiwr cŵn trwyddedig neu'r amodau y cedwir y ci ynddynt, cysylltwch evh.licensing@swansea.gov.uk gan roi cynifer o fanylion â phosib am eich pryder. Bydd swyddog yn cysylltu â chi, ac os oes angen gallwch egluro unrhyw bwyntiau ychwanegol wrtho. Os yw'ch pryder yn ymwneud â chyflwr y cŵn neu'r amodau y cedwir y cŵn ynddynt, yna fel arfer cynhelir archwiliad o'r fangre.

Close Dewis iaith