Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin - cyfleoedd dydd

Rydym wedi rhoi rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin am Gyfleoedd Dydd at ei gilydd.

Sut gallaf gael gwybod pa adeiladau cymorth dydd sydd ar agor?

Mae'r wybodaeth hon ar Emergency day support building plan - July 2021 (PDF) [47KB] .

Pam nad yw pob gwasanaeth cymorth dydd wedi ailagor?

Mae'r adeiladau cymorth dydd sydd ar agor ar hyn o bryd yn rhai y nodwyd eu bod yn addas i'w hagor gyntaf mewn ymateb i alw. Wrth i'r galw gynyddu, bydd y ddarpariaeth cymorth dydd, er nad yw'n gweithredu fel yr oedd cyn y pandemig, yn ceisio, lle bo'n bosib, gynnig cymorth i unigolion yn eu hadeilad gwasanaeth arferol, wedi'i harwain gan asesiadau risg.

Mae gwir angen rhywfaint o gymorth dydd ar gyfer o'm y person dwi'n gofalu amdano. Fydda' i'n ei gael?

Trafodwch eich anghenion unigol â'ch rheolwr gofal.

Os ydych yn ansicr ynghylch pwy yw'r rheolwr gofal a glustnodwyd i chi ac rydych yn defnyddio'r gwasanaethau anabledd dysgu, ffoniwch y Tîm Anabledd Dysgu Cymunedol ar 01792 614100. Os ydych yn defnyddio gwasanaethau eraill, e-bostiwch y Pwynt Mynediad Cyffredin yn CAP@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 636519.

Os clustnodir cymorth i fi, a fydda' i'n gallu mynd i'm lleoliad cymorth dydd am yr un faint o ddiwrnodau ag o'r blaen?

Na fyddwch, gan fod llai o leoedd ar gael gennym oherwydd y gofyniad parhaus am fesurau diogelu Coronafeirws a rheoli heintiau. Felly, mae'n dal angen i ni flaenoriaethu unigolion sydd bellach yn ei chael hi'n anodd aros gartref heb ryw fath o gymorth dydd. Bydd y gwasanaethau cymorth dydd a gynigir yn cael eu hasesu ar angen cyfredol a chymorth arall sydd ar gael i'r person fel rhwydweithiau teuluol, taliadau uniongyrchol a gofal cartref

Os caiff cymorth dydd ei glustnodi i fi, fydda' i'n gallu mynd i'r gwasanaeth yr oeddwn yn arfer mynd iddo cyn iddo gau?

Os bydd yr adeiladau ar agor, byddwn yn gwneud ymdrech enfawr i drefnu bod unigolion yn gallu mynd i'r gwasanaeth(au) maen nhw'n gyfarwydd ag e'/â nhw. Fodd bynnag, oherwydd bod llai ar gael, efallai na fydd hyn yn bosib bob tro. Wrth i adeiladau ailagor, efallai bydd unigolion yn gallu trosglwyddo i'r gwasanaeth yr oeddent yn arfer mynd iddo o'r blaen.

Os clustnodir cymorth dydd i fi/aelod o'm teulu/person dwi'n gofalu amdano pwy fydd yn dweud wrthyf?

Bydd Rheolwr y Gwasanaeth Dydd yn cysylltu i ddweud wrthych os clustnodwyd cymorth dydd i chi.

Fyddai'n colli fy hawl blaenorol i gymorth dydd os na chaf fy asesu fel person sy'n gallu cael mynediad ato ar hyn o bryd?

Na fyddwch. Mae'r trefniadau presennol ar waith oherwydd y Coronafeirws; rydym yn gorfod gweithredu gyda llai o adnoddau i hwyluso mesurau diogelu Coronafeirws a rheoli unrhyw haint a sicrhau bod y gwasanaeth mor ddiogel â phosib. Yn dilyn y cyfnod hwn, gobeithio y byddwn yn ailddechrau'n gwasanaethau arferol ond, yn anffodus, ni allwn roi union ddyddiad ar gyfer hyn.

Pryd bydd fy nghymorth dydd arferol yn ailgychwyn?

Byddwn yn cymryd agwedd ofalus a graddol tuag at gynyddu niferoedd yr unigolion sy'n cael mynediad at y gwasanaethau. Er mwyn rheoli hyn yn ddiogel, ac yn unol â gofynion cyfreithiol Llywodraeth Cymru, byddwn yn adolygu'n hasesiadau risg. Byddwn yn ceisio ailgychwyn gwasanaethau arferol pobl unwaith rydym mewn sefyllfa i ailagor yn llawn, ond yn anffodus, ni allwn roi union ddyddiad ar gyfer hyn. 

Fydd gwasanaethau'n edrych ac yn teimlo'n wahanol?

Rydym wedi newid y gwasanaethau cymorth dydd i sicrhau eu bod yn ddiogel i chi ddychwelyd, felly bydd pethau'n edrych ac yn teimlo'n wahanol. Mae'n golygu y bydd llai o weithgareddau ar gynnig oherwydd mesurau diogelu Coronafeirws yn y gwasanaeth ac yn y gymuned.

Mae angen seibiant arna' i ac rwyf am i'm perthynas ddychwelyd i wasanaethau, ond rwy'n ofalwr hŷn ag anghenion iechyd; sut byddaf yn gwybod bod y gwasanaethau'n ddiogel i ddychwelyd iddynt?

Mae'r gwasanaethau'n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac mae ganddynt asesiadau risg a gweithdrefnau ar waith i'w gwneud mor ddiogel â phosib o ran COVID-19. Mae croeso i chi gysylltu â Rheolwr y Gwasanaeth Dydd i drafod eich pryderon ymhellach.

Sut byddaf yn cyrraedd y gwasanaeth cymorth dydd?

Rydym yn gobeithio y bydd eich perthnasau/gofalwyr yn gallu dod â chi i'r cymorth dydd rydych chi'n mynd iddo. Teithio gydag aelod o'r teulu yw'r ffordd fwyaf diogel i gyrraedd y gwasanaeth cymorth dydd. Gallwn ystyried rhoi ychydig iawn o gymorth os nad yw hyn yn bosib.

Os oes gennyf ddewis amgen i wasanaeth cymorth dydd e.e. taliad uniongyrchol, faint o gymorth byddaf yn ei gael?

Trafodwch eich anghenion unigol â'ch rheolwr gofal.

Os na chaf fy asesu'n berson y mae angen iddo ddychwelyd i wasanaethau cymorth dydd, pa ddewisiadau eraill sydd ar gael i fi?

Trafodwch eich anghenion unigol â'ch rheolwr gofal.

Oes posibilrwydd y bydd yn rhaid i'r gwasanaethau cymorth dydd gau eto os bydd cynnydd sydyn yn nifer yr achosion o Coronafeirws?

Rydym yn cynllunio ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd ac mae posibilrwydd y bydd gwasanaethau'n cau os ydym yn profi cynnydd sydyn yn nifer yr achosion Fodd bynnag, byddwn yn ystyried parhau ddarparu cymorth dydd, lle y bo'n bosib ac yn ddiogel, er y bydd hyn ar gyfer llai o bobl. Gall rheolwyr gofal drafod eich anghenion os bydd llai o gymorth dydd ar gael neu os yw'n stopio.

Close Dewis iaith