Dosbarthiadau a chludfwyd - cyflenwyr bwyd ac eitemau hanfodol yn Abertawe
Rhestr o fusnesau lleol sy'n darparu bwyd ac eitemau hanfodol eraill trwy ddosbarthiadau neu gasgliadau yn ystod pandemig Coronafeirws.
Cyflenwyr bwyd ac eitemau hanfodol yn Abertawe (Excel doc) [58KB]
Sylwer: Gall yr wybodaeth ar y rhestr hon newid. Sicrhewch eich bod yn cadw llygad am y diweddaraf ar-lein neu gallwch ffonio'r busnes i ddarganfod sut maen nhw'n gweithredu. Mae llawer o'n busnesau bwyd yn gweithio i ateb galw mawr ac efallai na fyddant yn gallu ateb eich ymholiadau'n syth, felly byddwch yn amyneddgar.
Trefnwch ddosbarthiadau i'ch cartref lle bo'n bosib, ac ewch allan i brynu bwyd pan fo angen yn unig, gan gadw pellter cymdeithasol.
Rhowch wybod i ni os gwelwch fod unrhyw wybodaeth ar y rhestr yn anghywir neu os nad yw'n berthnasol mwyach.
Gwybodaeth am sgorau hylendid bwyd
Ydych chi'n fusnes lleol sy'n cynnig dosbarthiadau i'r cartref, casgliadau neu gludfwyd?
Os ydych chi'n fusnes lleol sy'n cynnig dosbarthiadau neu gasgliadau ar gyfer bwyd ac eitemau hanfodol eraill i breswylwyr Abertawe, rhowch wybod i ni fel y gallwn eich ychwanegu at y rhestr:
Cyflwynwch wybodaeth am ba fwydydd/hanfodion y gallwch chi eu darparu
Oes gennych fusnes yn Abertawe sy'n ei chael hi'n anodd ateb y galw presennol am ddanfoniadau i'r cartref? Neu oes gennych ddiddordeb mewn cynnig y gwasanaeth hwn ond nid oes gan eich tîm y gallu i wneud hynny? Os ateboch chi 'oes' i un o'r cwestiynau hyn, cysylltwch ag un o'r Swyddogion Cyswllt Cyflogwyr a fydd yn hapus i drafod eich gofynion.
Mae cyfeiriadur bwyd a diod newydd ar gyfer de Cymru wedi'i ddatblygu. Gall unrhyw fusnesau bwyd a diod sy'n dymuno ymuno ag ef wneud hynny am ddim trwy gofrestru fel cyflenwr lleol: https://southwalesfoodanddrink.com/register/
Manylion cyswllt archfarchnadoedd - ar gyfer grwpiau diamddiffyn yn unig
Gwasanaeth ffôn dynodedig Morrisons i gwsmeriaid na allant ymweld â'r siopau. Gellir archebu danfoniad o hyd at 47 o eitemau hanfodol. I archebu, ffoniwch 0345 611 611 a dewiswch opsiwn 5.
Cynllun Siopa â Chymorth Sainsbury's - 0800 328 1700 i gwsmeriaid na allant ymweld â siopau neu siopa ar-lein eu hunain.