Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid myfyrwyr

Cyllid Myfyrwyr Cymru nawr yn prosesu pob cais.

Oes modd i'm plentyn gael cymorth ariannol os bydd yn mynd ymlaen i addysg bellach neu uwch?

Lwfans Cynhallaeth Addysg

Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gael i fyfyrwyr ar gyrsiau ol-16 amser llawn mewn chweched dosbarthiadau neu yng Ngholeg Gwyr Abertawe.

Gall teuluoedd ar incwm isel gyflwyno cais am y grant a bydd uchafswm o £30 yr wythnos, sy'n daladwy bob pythefnos, yn cael ei dalu i fyfyrwyr cymwys. Dylai gwybodaeth gyffredinol am y cynllun a'r pecynnau cais angenrheidiol fod ar gael yn yr ysgol neu'r coleg. Neu gallwch gysylltu a Chanolfan Gyswllt Cyllid Myfyrwyr Cymru yn uniongyrchol trwy ffonion 0300 200 4050 neu ar-lein yn Cyllid Myfyrwyr CymruYn agor mewn ffenest newydd trwy ddewis yr opsiwn ysgol/coleg.

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Gallai myfyrwyr o aelwydydd incwm isel sy'n 19 oed neu'n hyd fod yn gymwys ar gyfer Grant Addysg Bellach llywodraeth cymru (GABLIC) (a elwir gynt yn Grant Addysg Bellach y Cynulliad) ar gyfer cyrsiau amser llawn neu ran-amser mewn colegau chweched dosbarth a thrydyddol.

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru, sydd wedi ei leoli yng Nghyffordd Llandudno, nawr yn gyfrifol am brosesu, asesu a thalu cyllid i fyfyrwyr ar gyfer pob cais.

Am fanylion ar sut i ymgeisio am gyllid i fyfyrwry, trowch at:  Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Oes oes gennych ymholiad am eich cyfrif i fyfyrwyr, dylech nawr gysylltu a Chyllid Myfyrwyr Cymru ar Ffon: 0300 200 4050..

Gall tudalennau Student Finance Wales Facebook a Student Finance Wales Twitter CMC hefyd ddarparu gwybodaeth a diweddariadau rheolaidd.

Close Dewis iaith