Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynllunio sy'n canolbwyntio ar y person

Mae Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar y Person (CCP) yn ffordd o gydweithio a chyfathrebu'n gadarnhaol a'n gilydd, ac mae'r plentyn bob amser yn ganolog i'r broses hon.

Bydd barn, dymuniadau a theimladau'r plentyn/person ifanc yn ganolog i'r broses benderfynu.

Gyda CCP, defnyddir amrywiaeth o offer neu ddulliau gwahanol i ddatblygu Cynlluniau Datblygu/Addysg Unigol y plentyn neu'r person ifanc. Mae llawer o ymagweddau gwahanol at CCP ond maent oll yn canolbwyntio ar farn, dymuniadau a theimladau'r plentyn neu'r person ifanc, ei ddyheadau a'i obeithion ar gyfer y dyfodol.

Adolygiadau a chyfarfodydd

Dylai fod gan gyfarfodydd ac adolygiadau ffocws cadarnhaol i archwilio dyfodol gwell a mwy cadarnhaol ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc. Dylai'r cyfarfod hefyd arwain at lunio cynllun gweithredu clir.

Dylai'r ymagwedd gadarnhaol ar gyfer cyfarfodydd ac adolygiadau ganolbwyntio llai ar yr hyn sydd o'i le, a mwy ar yr hyn yr hoffem iddo ddigwydd.

Efallai bydd newid yn y math o gwestiynau y gofynnir i chi eu hystyried, a'r math o wybodaeth y gofynnir i chi ei rhannu.

Close Dewis iaith