
Cynllunio Parhad Gofal Cymdeithasol
Paratoi Cymru i Gadael yr UE: Cyswllt Cynllunio Gofal Cymdeithasol Parhaus ar gyfer Abertawe
Os ydych chi'n ddarparwr gofal cymdeithasol a'ch bod chi'n profi problem gyda chyflenwi cynnyrch, gwasanaeth, neu unrhyw beth arall sy'n bwysig i'ch busnes, fel tanwydd, a allai effeithio ar eich gallu i barhau i ddarparu gwasanaethau, rydyn ni'n argymell eich bod chi'n codi'ch pryder gyda'ch awdurdod lleol cyn gynted ag y gallwch. Dylech godi'ch pryder gyda'ch awdurdod lleol p'un a ydych chi'n cael eich comisiynu'n uniongyrchol ganddynt i gynnal gwasanaethau ai peidio.
Anogir darparwyr i gefnogi hunan-gyllidwyr uniongyrchol yn briodol os ydynt yn codi pryderon ynghylch cyflenwi cynhyrchion neu agweddau eraill ar ofal, fel eu meddyg teulu er enghraifft.
Os ydych chi'n darparu gwasanaethau ar draws sawl awdurdod lleol, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynghori pawb sydd â diddordeb.
Eich prif bwynt cyswllt ar gyfer yr awdurdod yn ystod oriau swyddfa yw:
Peter Field 07967 831173
Defnyddiwch y pwynt cyswllt hwn i roi gwybod am unrhyw bryderon neu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am:
- Cyflenwad Bwyd
- Cyflenwad Tanwydd
- Meddyginiaethau
- Dyfeisiau Meddygol, Stociau Traul Defnyddiadwy Clinigol (menig, cathetrau ac ati)
- Gweithlu
- Statws Setledig yr UE
- Rhannu a Mynediad Data
- Cynllunio Parhad Busnes