Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd 2015

Dan Reoliadau Perygl Llifogydd 2009, mae gofyniad i bob Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol y mae ganddo ardal perygl llifogydd gyhoeddi Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd ar gyfer yr ardal honno cyn 22 Rhagfyr 2015.

Mae wedi'i lunio wrth ystyried bygythiad llifogydd i gymunedau ac yn pennu sut bydd Dinas a Sir Abertawe'n ceisio rheoli'r perygl hwn dros y chwe blynedd nesaf, fel bod y cymunedau a'r amgylchedd â'r perygl mwyaf yn cael y budd mwyaf.

Mae'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd hefyd yn ceisio cyflawni rhai o'r amcanion a bennwyd yn Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) Genedlaethol Llywodraeth Cymru sy'n rhoi'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru trwy bedwar amcan cyffredinol:

  • Lleihau'r canlyniadau i unigolion, cymunedau, busnesau a'r amgylchedd o lifogydd ac erydu arfordirol;
  • Codi ymwybyddiaeth pobl a'u cynnwys yn yr ymateb i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol;
  • Darparu ymateb effeithiol a pharhaus i ddigwyddiadau llifogydd ac erydu arfordirol;  a
  • Blaenoriaethu buddsoddi yn y cymunedau sydd yn y perygl mwyaf         

Mae'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn cwmpasu llifogydd o ddŵr wyneb, dŵr codi, cyrsiau dŵr cyffredin a'r berthynas â llifogydd y brif afon. Mae llifogydd o brif afonydd a chronfeydd dŵr yn dal i fod yn gyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru a chynhwysir eu cynigion yng Nghynllun Rheoli Perygl Llifogydd Basn Afon Gorllewin Cymru.

Mae'r cynllun mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'i adolygu'n ofynnol dan Adran 26(3)a y Rheoliadau Perygl Llifogydd.

Cliciwch ar y ddolen isod i weld Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Dinas a Sir Abertawe

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd 2015 (PDF) [10MB]

Close Dewis iaith