
Cynllun rheoli'r priffyrdd
Gwybodaeth a chynlluniau strategol y priffyrdd.
Mae Dinas a Sir Abertawe'n gyfrifol am gynnal a chadw 1091 km (676 milltir) o ffyrdd cerbydau a llwybrau troed priffyrdd a fabwysiadwyd yn ei ffiniau, gan sicrhau bod yr holl faterion cynnal a chadw a rheoli priffyrdd yn cael eu gwneud yn effeithiol.
Mae'r cyngor yn cynnal a chadw'r prif ffyrdd a fabwysiadwyd mewn sawl ffordd:
- Mae gan y cyngor raglen cynnal a chadw strwythurol flynyddol o waith cynlluniedig, sy'n cynnwys ailwynebu ffyrdd a chynlluniau ail-greu palmentydd.
- Mae cyllideb i gynnal atgyweiriadau bach i ardaloedd o ddirywiad cyffredinol, megis difrod i balmentydd a ffyrdd.