Toglo gwelededd dewislen symudol

Dewis Cymru

Dewch o hyd i sefydliadau a gwasanaethau lleol a chenedlaethol a all eich helpu chi.

Dewis Cymru yw'r lle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant - neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall.

Wrth sôn am eich llesiant, nid eich iechyd chi yn unig sydd dan sylw. Rydym yn golygu pethau fel ble rydych chi'n byw, pa mor ddiogel rydych chi'n teimlo, mynd allan ac o gwmpas y lle, a chadw mewn cysylltiad â'ch teulu a'ch ffrindiau.

Nid oes dau unigolyn sydd yr un fath ac mae llesiant yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Felly mae Dewis Cymru yma i'ch helpu i gael gwybod mwy am yr hyn sy'n bwysig i chi.

Mae gennym ni wybodaeth sy'n gallu eich helpu i feddwl am yr hyn sy'n bwysig i chi, yn ogystal â gwybodaeth am bobl a gwasanaethau yn eich ardal chi sy'n gallu'ch helpu gyda'r pethau sy'n bwysig i chi.

Enw
Dewis Cymru
Gwe
http://www.dewis.wales
Close Dewis iaith