Datblygu partneriaethau effeithiol
Mae angen ymroddiad, ymddiriedaeth a pharch gan y ddau barti ar unrhyw bartneriaeth (er mwyn iddi fod yn effeithiol).
Er mwyn i blant gael y budd mwyaf o'u haddysg, mae'n hanfodol datblygu perthnasoedd cadarnhaol rhwng eu rheini a'r ysgol.
Dyma bum elfen bwysicaf partneriaeth:
- Hawliau
- Cyfrifoldebau
- Perthnasoedd
- Adnoddau
- Gwirionedd
Hwylusir partneriaethau effeithiol gan y canlynol:
- Mae pob partner yn cydnabod y sgiliau, y profiadau a'r wybodaeth wahanol sydd gan bob un o'r partneriaid eraill.
- Mae pob partner yn gwerthfawrogi sgiliau, profiad a gwybodaeth y partneriaid eraill.
- Mae'r holl bartneriaid yn cydnabod yr angen am fewnbwn pob un o'r partneriaid.
- Mae pob partner yn teimlo y caiff ei werthfawrogi.
Mae'r pedwar ffactor allweddol hyn hefyd yn hanfodol i helpu gwaith partneriaeth. (Maent hefyd yn cynorthwyo i leihau gwrthdaro ac anghytuno):
- Cyd-ddealltwriaeth
- Ymddiriedaeth
- Parch
- Empathi rhwng yr holl barteriaid.