Cynnig gofal plant a ariennir gan y llywodraeth - datganiad cymhwysedd parhaus
Fel rhan o'n proses wirio barhaus, gofynnir i rieni lenwi ffurflen datganiad bob tymor. Bydd hyn yn ail-ddatgan eu cymhwysedd parhaus wrth symud ymlaen at y tymor nesaf.
Dewisir hefyd geisiadau ar hap a gofynnir iddynt ddarparu slipiau tâl cyfredol.
I sicrhau cyllid parhaus ar gyfer y cynnig gofal plant, mae'n ofynnol i chi ddatgan eich cymhwysedd parhaus ar gyfer tymor yr gwanwyn 2023 drwy ateb y cwestiynau isod a chyflwyno eich ymatebion.
Gall methu dychwelyd y datganiad arwain at roi terfyn ar eich gofal plant a ariennir nes cadarnheir prawf o gymhwysedd. O'r data rydych yn ei ddarparu, efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy eich e-bostio a/neu'ch ffonio er mwyn cael rhagor o wybodaeth.