Toglo gwelededd dewislen symudol

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn ceisio'i gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio yng Nghymru, yn benodol i hyrwyddo cerdded a beicio fel dulliau ymarferol o gludiant ar gyfer teithiau pob dydd fel mynd i'r siopau, i'r gwaith neu'r coleg.

Shared use path (tree lined, with sign).

Mae'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol yng Nghymru i fapio, cynllunio a hyrwyddo teithio llesol.

Fel rhan o'r ddeddf, mae'n ofynnol i ni lunio 'Map Rhwydwaith Teithio Llesol' (MRhTLl).

Offeryn cynllunio rhwydwaith yw'r map rhwydwaith teithio llesol (MRhTLl), sy'n galluogi awdurdod lleol i ddatblygu a chynnal cynllun strategol o'r holl lwybrau cerdded a beicio. Mae'r map wedi'i rannu rhwng y rhwydwaith 'presennol' o lwybrau cerdded a beicio sy'n bodloni safonau dylunio Llywodraeth Cymru, a rhwydwaith o lwybrau posib ar gyfer y 'dyfodol' rydym yn bwriadu eu gwella i alluogi mwy o bobl i gerdded a beicio yn Abertawe a'r ardaloedd cyfagos.

Bob blwyddyn, rydym yn gallu gwneud cais am grant o 'Gronfa Teithio Llesol' Lywodraeth Cymru i wella neu greu cysylltiadau cerdded a beicio.

Prosiectau teithio llesol cyfredol Prosiectau teithio llesol cyfredol

Mae pob llwybr posib ar gyfer y dyfodol yn ddyheadol ac mae angen gwneud gwaith pellach i asesu addasrwydd a datblygu dyluniadau priodol yn unol â chanllawiau dylunio Llywodraeth Cymru. Byddai unrhyw lwybrau a gynigir i'w datblygu'n destun ymgysylltu pellach â rhanddeiliaid.

Datblygwyd MRhTLl Abertawe yn ystod 2021 yn dilyn dwy rownd 12 wythnos ddwys o ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Roedd yr adborth a gasglwyd wedi helpu i nodi problemau yn y rhwydwaith cyfredol a nodi llwybrau posib ar gyfer y dyfodol i wella cysylltiadau teithio llesol rhwng cymunedau.

Yna cyflwynwyd y MRhTLl drafft i Lywodraeth Cymru ac fe'i cymeradwywyd ganddi yn 2022. Caiff ei adolygu a'i ddiweddaru'n gyson fel rhan o ofynion y ddeddf. 

I sicrhau cysondeb ar draws Cymru, crëwyd a chyhoeddwyd MRhTLl pob awdurdod gan ddefnyddio system fapio Llywodraeth Cymru, 'Map Data Cymru'.

Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (MapDataCymru) Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (MapDataCymru)

Ceir fersiwn o'r MRhTLl y gellir ei lawrlwytho yma:  Map Rhwydwaith Teithio Llesol Abertawe (wedi'i gymeradwyo 2022) (PDF) [18MB]

 

Rydym hefyd yn llunio adroddiadau blynyddol a gyflwynir i Lywodraeth Cymru i fonitro costau a'r defnydd o Deithio Llesol yn Ninas a Sir Abertawe. Mae'r adroddiadau hyn hefyd ar gael yn yr adran lawrlwythiadau isod.

Close Dewis iaith