pam dewis ni?

pam dewis ni?

pam ein dewis ni?

Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu nid-er-elw Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Rydyn ni bob amser yn canolbwyntio ar bobl. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio ar y cyd â gofalwyr maeth i greu bywydau gwell i blant mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae llunio’r dyfodol i blant lleol wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

ein cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw creu dyfodol gwell i bob plentyn yn ein gofal. Babis, plant bach, plant yn eu harddegau, brodyr a chwiorydd a rhieni ifanc – maen nhw i gyd ein hangen ni, ac maen nhw eich angen chithau hefyd.

woman hugging teenage girl

ein cefnogaeth

Mae Maethu Cymru yn rhoi cefnogaeth heb ei thebyg i chi a’r plant yn ein gofal.

Fel eich rhwydwaith cefnogi lleol, rydyn ni bob amser wrth law i gynnig ein harbenigedd, ein harweiniad a phob math o gyfleoedd dysgu a datblygu.

family watching a video on tablet

ein ffyrdd o weithio

Mae cysylltu a chydweithio yn hanfodol i’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Mae Maethu Cymru yn rhan o’ch cymuned. Rydyn ni’n gweithio fel tîm i greu dyfodol hapusach a chadarnhaol i blant yn Abertawe.

Mae gan bob plentyn ei anghenion personol ei hun. Ein rôl ni yw eich cefnogi chi i fod y gofalwr maeth gorau y gallwch fod drwy ddefnyddio eich talentau a’ch cefnogi i ddatblygu ar bob cam.

family choosing their walking route

eich dewis

Siaradwch â ni heddiw a byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at wneud gwahaniaeth i ddyfodol plentyn.

Rydyn ni’n deall pwysigrwydd gwneud y dewis iawn i’ch teulu, felly byddwn yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y penderfyniad gorau i chi.

Rydyn ni’n bobl sy’n gofalu yma yn Maethu Cymru Abertawe. Drwy ein dewis ni, byddwch yn gweithio gyda phobl ymroddedig sydd wedi’u hyfforddi, sy’n byw lle rydych chi’n byw ac sy’n gallu uniaethu â bywyd yn eich cymuned.

cysylltwch â ni heddiw

  • Os ydych chi’n bwriadu gofyn am becyn gwybodaeth, gofyn cwestiwn neu gymryd y cam cyntaf tuag at ddod yn ofalwr maeth, rydyn ni yma i helpu. Llenwch y ffurflen isod a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi.