Coronafeirws a diweddariadau gofal cymdeithasol
Diweddariadau ar sut bydd Coronafeirws yn effeithio ar wasanaethau gofal cymdeithasol.
Cymorth brys gan y Gwasanaethau Cymdeithasol gyda'r nos ac ar benwythnosau
Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol Dîm Dyletswydd Brys (TDB) yn Abertawe sydd ar ddyletswydd ar:
- nosweithiau yn ystod yr wythnos (rhwng 5.00pm ac 1.00am, nos Lun i nos Iau, ac o 4.30pm i 1.00am nos Wener)
- penwythnosau rhwng 9.00am ac 1.00am
Rhwng 1.00am a 9.00am, mae un person ar ddyletswydd ar gyfer argyfyngau difrifol yn unig.
Mae'r TDB ond yn gallu delio â sefyllfaoedd argyfwng na allant aros tan y diwrnod canlynol. Fel arfer bydd y tîm yn darparu gwybodaeth a chyngor i gadw'r sefyllfa'n ddiogel tan y diwrnod canlynol. Dim ond yn yr achosion mwyaf anodd neu argyfyngus y bydd ymweliad gan weithiwr cymdeithasol.
Gallwch ffonio'r Tîm Dyletswydd Brys ar 01792 775501.
Rhagor o wybodaeth am y Tîm Dyletswydd Brys
Cymorth gan y Gwasanaethau cymdeithasol yn ystod oriau gwaith arferol
Gellir cysylltu â'r Un pwynt cyswllt (UPC) drwy ffonio 01792 635700 neu ebostio: singlepointofcontact@abertawe.gov.uk ond gan fod y tîm GCaChI yn derbyn nifer digynsail o alwadau, oni bai fod eich galwad yn ymwneud â risg sylweddol o niwed neu risg i fywyd plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â ni drwy e-bost.
Rhagor o wybodaeth am yr 'Un Pwynt Cyswllt'
Gellir cysylltu â'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC) drwy ffonio 01792 636519 neu ebostio: pmc@abertawe.gov.uk. Fodd bynnag, gan eu bod yn derbyn nifer digynsail o alwadau, gofynnwn i chi beidio ag aros ar y llinell ffôn oni bai fod yr alwad yn ymwneud â risg o niwed neu risg i fywyd rhywun, a chysylltwch â ni drwy e-bost yn lle. Ond, os nad oes gynnych fynediad at e-bost, arhoswch ar y llinell a byddwn yn ateb cyn gynted â phosib.