Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyffryn Llandeilo Ferwallt

Mae Dyffryn Llandeilo Ferwallt (ger pentref Llandeilo Ferwallt), yn ymestyn o Kittle yn y gogledd i Fae Pwll Du yn y de.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen arno ac yn ei reoli. Mae natur anghysbell y dyffryn yn ychwanegu at ei ddirgelwch a'i swyn. Prif nodwedd y dyffryn yw'r coetir hynafol sy'n gorchuddio ei lethrau serth. Mae nant yn ymlwybro ar hyd gwaelod y dyffryn, gan ddiflannu o bryd i'w gilydd i mewn i dyllau a llyncdyllau yn y calchfaen ac yn ymddangos eto, a cheir dolydd gwlyb ar hyd ei glannau.

Mae smyglwyr, glowyr a gweithwyr chwarel i gyd wedi bod yn rhan o orffennol lliwgar y cwm a gellir gweld tystiolaeth o'r gorffennol hwn wrth i chi gerdded drwy'r dyffryn i Fae Pwll Du. Roedd yr adeiladau yn y Bae unwaith yn dafarnau a wasanaethai weithwyr y chwarel. Gallwch fynd o Fae Pwll Du i Warchodfa Natur Leol Pwll Du.

Uchafbwyntiau

Mae'r daith gerdded hon yn llawn pwyntiau o ddiddordeb, gan gynnwys y bywyd gwyllt, nodweddion hanesyddol, megis pwll arian/plwm Long Ash, caer bentir yr Oes Haearn, ogofâu a thyllau wedi'u cerfio yn y calchfaen gan ddwr yn ffrydio i lawr y dyffryn i Fae Pwll Du llonydd a hardd. Os byddwch yn dawel, efallai gwelwch las y dorlan neu ddyfrgi ar lan y nant.

Dynodiadau

  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • Yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) Gŵyr

Cyfleusterau

  • Siopau gan gynnwys swyddfa'r post a phopty yn Kittle

    Gwybodaeth am fynediad

    Cyfeirnod Grid SS577916
    Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

    Llwybrau cerdded

    Mae sawl llwybr cerdded yn rhedeg drwy'r dyffryn. Gallwch fynd i'r dyffryn o ddau fan cychwyn yn Kittle, naill ai oddi ar faes y pentref neu oddi ar Hen Lôn Kittle lle mae'r llwybr yn dechrau ar wely'r nant ac felly'n nid yw'n hygyrch nac yn ddiogel ar ôl glaw hir neu drwm. Mae sawl llwybr cerdded yn cysylltu'r dyffryn â Llandeilo Ferwallt a Southgate hefyd.

    Ceir

    Ceir ychydig o leoedd parcio ar Hen Lôn Kittle. Ceir rhai lleoedd parcio yn Llandeilo Ferwallt ger un o'r nifer o lwybrau cerdded sy'n arwain at y dyffryn. Ceir maes parcio yn Southgate (yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) hefyd lle gallwch gerdded ar hyd Clogwyni Pennard neu i lawr Lôn Hael (hen lwybr smyglo) i gyrraedd y dyffryn.

    Bysus

    Mae bysus yn teithio'n rheolaidd i Kittle, Llandeilo Ferwallt a Southgate o Abertawe.

    Close Dewis iaith