Gwneud cais am eithriad i'r terfyn sachau du
Ni ellir ailgylchu gwastraff megis gwasarn cathod, cewynnau un tro. Bydd cartrefi sy'n cael eithriad ond yn cael rhoi gwastraff/deunyddiau na ellir eu hailgylchu yn eu sachau du.
Ni chewch roi unrhyw ddeunydd y gellir ei ailgylchu mewn sachau du ychwanegol er mwyn i eithriad gael ei ganiatáu.
Mae eithriadau ar gael ar gyfer:
- gwastraff anifeiliaid anwes
- cewynnau tafladwy
Os caniateir eithriad, bydd yn ddilys am flwyddyn i ddechrau a gallai'ch gwastraff gael ei fonitro. Mae amodau a thelerau'n berthnasol.