Ar ôl dydd Sadwrn 2 Ionawr, caiff y gwasanaethau Parcio a Theithio eu hatal nes clywir yn wahanol.
Parcio a Theithio Ffordd Fabian
Mae safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian wedi'i leoli'n gyfleus oddi ar yr A483, tua milltir i'r dwyrain o Ganol y Ddinas.
Lleoliad
Parcio a Theithio Ffordd Fabian, Ffordd Fabian, Abertawe, SA1 8LD.
O Gyffordd 42 yr M4 (Dwyrain Abertawe), dilynwch arwyddion 'Abertawe' am ryw bedair milltir. Mae Ffordd Fabian yn daith 10 munud yn unig o'r M4. Mae safle Ffordd Fabian wedi'i leoli'n gyfleus ar gyfer mynd i Abertawe o Gastell-nedd, Blaenau'r Cymoedd, Pen-y-bont a Chaerdydd.
Gwybodaeth gwasanaethau bysus
Gwasanaeth 9A yn ôl ac ymlaen i ganol y ddinas
Bydd bysus yn gweithredu bod 20 munud yn ystod o dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
9A - Amserlen Parcio a Theithio Ffordd Fabian (PDF, 10KB)Yn agor mewn ffenest newydd
Safleoedd bysus:
- Fabian Way (Porth SA1)
- Fabian Way (King's Road / cyn-dafarn y Cape Horner)
- Quay Parade (Sainsbury's)
- Gorsaf Fysus Dinas Abertawe
Gwasanaeth 9B yn ôl ac ymlaen i Gampws y Bae Prifysgol Abertawe
Bydd bysus yn gweithredu bob 20 munud yn ystod y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod tymhorau'r brifysgol.
9B - Amserlen Parcio a Theithio Ffordd Fabian (PDF, 59KB)Yn agor mewn ffenest newydd
Nodweddion
- Mae'r maes parcio ar agor rhwng 6.45am a 7.00pm ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
- 550 o lefydd parcio gan gynnwys 23 o gulfannau i'r anabl; a rheseli beiciau.
- CCTV.
- Ardal aros amgaeedig gyda seddi, man gwybodaeth a pheiriannau lluniaeth.
- Toiledau, gan gynnwys toiledau'r anabl a chyfleusterau newid babanod.
Gwasanaeth bws wedi'i gynnal gan
First, Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, SA5 7BN
Ffôn: 01792 572255 (7.00am - 10.00pm)
E-bost: cymru.customerservices@firstgroup.com