Parcio a Theithio Ffordd Fabian
Mae safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian wedi'i leoli'n gyfleus oddi ar yr A483, tua milltir i'r dwyrain o Ganol y Ddinas.
Cynnig presennol
Talwch £1 yn unig i barcio drwy'r dydd yn ein safleoedd parcio a theithio - a hynny ar gyfer un car a hyd at bedwar teithiwr!
O Gyffordd 42 yr M4 (Dwyrain Abertawe), dilynwch arwyddion 'Abertawe' am ryw bedair milltir. Mae Ffordd Fabian yn daith 10 munud yn unig o'r M4. Mae safle Ffordd Fabian wedi'i leoli'n gyfleus ar gyfer mynd i Abertawe o Gastell-nedd, Blaenau'r Cymoedd, Pen-y-bont a Chaerdydd.
Lleoliad
Parcio a Theithio Ffordd Fabian, Ffordd Fabian, Abertawe, SA1 8LD.
Amserlen (gwasanaeth PR1)
Mae'r bysus yn rhedeg bob 15 munud yn ystod y dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Maent fel arfer yn fysus deulawr, modern hygyrch â lloriau isel.
Ffordd Fabian | Gorsaf Fysus Abertawe |
---|---|
7.00am | 7.12am |
7.15am | 7.27am |
7.30am | 7.42am |
7.45am | 7.57am |
Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr: 00 15 30 45 | Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr: 12 27 42 57 |
Tan 6.30pm | Tan 6.42pm |
Gorsaf Fysus Abertawe | Ffordd Fabian |
---|---|
8.00am | 8.12am |
8.15am | 8.27am |
8.30am | 8.42am |
8.45am | 8.57am |
Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr: 00 15 30 45 | Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr: 12 27 42 57 |
Tan 6.45pm | Tan 6.57pm |
Safleoedd bysus
- Ffordd Fabian (Porth SA1)
- Ffordd Fabian (St Thomas)
- Parêd y Cei (Sainsburys)
- Gorsaf Fysus Abertawe
Nodweddion
- Mae'r maes parcio ar agor rhwng 6.45am a 7.30pm ddydd Llun i ddydd Sadwrn
- 529 o lefydd parcio gan gynnwys 22 o gulfannau i'r anabl; a rheseli beiciau
- CCTV
- Ardal aros amgaeedig gyda seddi, man gwybodaeth a pheiriannau lluniaeth
- Toiledau, gan gynnwys toiledau'r anabl a chyfleusterau newid babanod
- Mannau gwefru cerbydau trydan
- Mae parcio i goetsis ar gael yn y maes parcio gorlif
- hwb beicio
Gwasanaeth bws wedi'i gynnal gan
First, Heol Gwyrosydd, Pen-lan, Abertawe, SA5 7BN.
Ffôn: 01792 572255 (8.00am to 6.00pm)
Ebost: cymru.customerservices@firstgroup.com