Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cerbydau wedi'u gadael

Mae symud cerbydau wedi'u gadael, wedi'u llosgi ac anaddas i'r ffordd fawr yn fater o bwys er mwyn gwella diogelwch ar ein ffyrdd ac yn ein cymunedau.

Os ydym yn credu bod cerbyd wedi cael ei adael, gellir gwirio gyda'r DVLA er mwyn darganfod manylion y perchennog presennol. Os ystyrir bod y cerbyd mewn cyflwr peryglus, caiff ei flaenoriaethu a byddant yn ei gasglu o fewn 24 awr. Bydd cerbydau sydd wedi'u gadael ar dir preifat yn cael cyfnod rhybudd 15 niwrnod, fel arfer ar ôl ymgynghori â pherchennog neu asiant y tir.

Gallwch weld os yw cerbyd wedi'i drethu ac os oes ganddo MOT ar Gov.uk/gwirio treth cerbyd (Yn agor ffenestr newydd)

Adrodd am gerbyd wedi'i adael

Er mwyn ein helpu i fynd i'r afael â cherbyd wedi'i adael yn gyflym, rhowch yr wybodaeth ganlynol i ni am y cerbyd:

  • Gwneuthuriad, model a lliw'r cerbyd
  • Rhif cofrestru'r cerbyd (Os yw'r platiau cofrestru ar goll gallwch gael yr wybodaeth hon o'r ddisg treth os yw wedi'i harddangos)
  • Cyflwr y cerbyd (gan fanylu ar unrhyw fandaliaeth)
  • Dyddiad terfyn y ddisg treth, os yw wedi'i harddangos
  • Union leoliad y cerbyd
  • Pa mor hir y gadawyd y cerbyd
  • Unrhyw wybodaeth arall, e.e. y perchennog neu'r defnyddiwr posib.

Adrodd am gerbyd wedi'i adael Adrodd am gerbyd wedi'i adael

Symud cerbydau heb eu trethi

Trwy bwerau datganoledig gan y DVLA, gall y cyngor symud cerbydau heb dreth ar y ffordd fawr.  Os oes gennych unrhyw wybodaeth am gerbydau heb eu trethu yn ardal Abertawe, defnyddiwch ein  ffurflen Adrodd am gerbyd wedi'i adael ar-lein neu ffoniwch 01792 636819.  

Cofiwch - Os oes gennych gerbyd heb dreth ar y ffordd fawr, gallech fod yn atebol am unrhyw ddirwyon a roddir.

Adrodd am gerbyd wedi'i adael

Rhowch wybod i ni am gerbyd wedi'i adael er mwyn i ni allu mynd i'r afael ag ef.

Sut i hawlio cerbyd a atafaelwyd

Os yw eich cerbyd wedi cael ei waredu fel cerbyd sydd wedi'i adael a'i atafaelu gan y cyngor, gallwch ei hawlio'n ôl gennym ni.

Cwestiynau cyffredin am gerbydau a adawyd

Find out answers to the most common questions we get asked about abandoned vehicles.
Close Dewis iaith