Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhaglen Gelfyddydau Canol y Ddinas

Mae Rhaglen Gelfyddydau Canol Dinas Abertawe yn hyrwyddo'r rôl sylweddol y mae'r celfyddydau a diwylliant yn ei chwarae wrth adfywio canol dinas Abertawe.

Mae'r rhaglen yn cyflwyno profiadau sy'n seiliedig ar gelfyddyd yng nghanol y ddinas, â'r nod o gyfoethogi mannau cyhoeddus a darparu safbwyntiau amgen o fannau cyhoeddus adnabyddus a safleoedd datblygu yn ystod y gwaith adfywio.

Drwy wella'r profiad i ymwelwyr, annog pobl i edrych eto ac ailddychmygu canol Abertawe, rhagwelir y datblygir ymdeimlad o le a fydd yn hybu nifer yr ymwelwyr ac yn cynyddu'r amser y mae pobl yn ei dreulio yng nghanol y ddinas.

Y gobaith yw y bydd gwella mannau cyhoeddus, ysbrydoli pobl i gysylltu â lleoedd, annog hwyl chwareus a chynhyrchu safbwyntiau newydd sy'n ddiddorol, yn ddifyr ac yn hygyrch, yn arwain at werthfawrogi canol y ddinas yn fwy.

"Mae'n braf gweld mwy o gelf gyhoeddus ar strydoedd Abertawe. Gall y celfyddydau a diwylliant chwarae rôl sylweddol mewn adfywio - ac mae ein rhaglen gelfyddydau canol y ddinas yn hyrwyddo hynny. Mae'r rhaglen yn cyflwyno celfweithiau o gwmpas strydoedd a mannau cyhoeddus y ddinas yn ystod y gwaith cyfredol gwerth £1 biliwn i'w hailddatblygu." - Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Mae'r rhaglen yn cychwyn gyda dau gasgliad o gelf liwgar a grëwyd gan bobl o bob rhan o Abertawe:

  • Caneuon Abertawe - casgliad o bortreadau mympwyol a grëwyd gan ofalwyr ifanc Abertawe o'r YMCA yn St Helen's Road.
  • Grŵp Croeso Abertawe - casgliad o bortreadau o deulu a ffrindiau a baentiwyd gan Grŵp Croeso Abertawe, sy'n dod â ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phreswylwyr y ddinas ynghyd drwy weithdai celf yn y Glynn Vivian.
Close Dewis iaith