
Gofalwyr
Arweiniad a dolenni i helpu gofalwyr ganfod gwybodaeth i'w cefnogi yn eu sefyllfa ofalu.
Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach
Mae gofalwr yn rhywun o unrhyw oedran sy'n darparu cefnogaeth i deulu neu ffrindiau na fyddai'n gallu ymdopi heb yr help hwn. Gallai hyn gynnwys gofalu am berthynas, partner neu ffrind sy'n dost, yn eiddil, yn anabl neu â phroblemau iechyd meddwl neu sy'n camddefnyddio sylweddau. Ni ddylid drysu'r term gofalwr â gweithiwr gofal, neu gynorthwy-ydd gofal, sy'n cael tâl am ofalu am rywun.
Ffrindiau neu berthnasau sy'n gweithredu fel gofalwyr sy'n darparu'r rhan fwyaf o help mae ei angen ar bobl mewn cymdeithas. Plant a phobl ifanc yw nifer sylweddol o'r rhain. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn dewis bod yn ofalwyr, ac nid yw llawer hyd yn oed yn cydnabod eu hunain yn ofalwyr, gan weld y gefnogaeth maen nhw'n ei darparu fel yr hyn y byddai gŵr/merch/chwaer yn ei wneud i rywun maen nhw'n meddwl llawer amdano. Mae gofalwyr yn aml yn gwneud gwaith anodd a llethol. Gall y gofynion corfforol ac emosiynol sy'n rhan o ofalu am rywun arwain at straen, ynysu a salwch (meddwl neu gorfforol) hyd yn oed. Fel gofalwr, mae'n rhaid i chi gydnabod eich anghenion eich hunan am help a chefnogaeth ac mae gennych hawl i ddisgwyl i eraill, megis gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, barchu'r hawl hon a'ch cyfeirio i gefnogaeth sy'n briodol ar gyfer eich sefyllfa unigol.
Bwriad y tudalennau gwe hyn i ofalwyr yw eich cyfeirio i ddod o hyd i'r wybodaeth berthnasol i'ch sefyllfa gofalu, ond nid ydynt yn cymryd lle cyngor arbenigol y gall fod ei angen ar ofalwyr unigol.

Cefnogaeth i Ofalwyr yn Abertawe
Gall gofalwyr gael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gan nifer o sefydliadau lleol, gan gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol a Chanolfan Gofalwyr Abertawe.

Asesiadau o Anghenion Gofalwyr
Os ydych yn darparu gofal i berthynas, partner neu ffrind, mae gennych hawl i gael asesiad o'ch anghenion eich hunain, a yw'r sawl rydych yn gofalu amdano'n defnyddio unrhyw un o'r gwasanaethau gofal cymdeithasol ai peidio.

Sefydliadau cenedlaethol sy'n cefnogi gofalwyr
Mae nifer o sefydliadau cenedlaethol a all roi gwybodaeth ac arweiniad i'ch helpu gyda'ch rôl gofalu.

Gofalwyr Ifanc
Mae gofalwr ifanc yn blentyn neu'n berson ifanc y mae gofalu am rywun ag anabledd neu salwch tymor hir yn effeithio ar ei fywyd. Yn aml, bydd yn ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu emosiynol a ddisgwylid gan oedolyn fel arfer.

Bywyd y Tu Allan i Ofalu
Dylai gofalwyr allu cael eu bywyd eu hunain law yn llaw â'u cyfrifoldebau gofalu. Gall seibiant o'r rôl gofalu gefnogi a chynnal eich perthynas gofalu.

Cyllid a Budd-daliadau i Ofalwyr
Nid yw'n anghyffredin i ofalwyr gael anawsterau ariannol. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, mae nifer o fudd-daliadau y gallen nhw a'r rhai maen nhw'n gofalu amdanyn nhw eu hawlio.