Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Gofrestr Etholiadol

Rheolir cofrestrau'n lleol gan swyddogion cofrestru. Gan ddefnyddio gwybodaeth a dderbynnir gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru'n cadw dwy gofrestr - y gofrestr etholiadol a'r gofrestr agored (a elwir hefyd y gofrestr olygedig). 

Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol megis sicrhau mai pobl sy'n gymwys i bleidleisio'n unig sy'n gwneud hynny. Fe'i defnyddir at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith hefyd, megis canfod troseddau (e.e. twyll), cysylltu â phobl i drefnu gwasanaeth rheithgor a cheisiadau gwirio credyd.

Y Gofrestr Agored

Mae'r gofrestr agored yn ddetholiad o'r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei defnyddio mewn etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, fe'i defnyddir gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad.

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad ar y gofrestr agored oni bai eich bod yn gofyn iddynt eu tynnu oddi arni. Nid yw tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio. Gallwch ofyn iddynt gael eu tynnu drwy gysylltu â staff cofrestru etholiadol eich cyngor lleol. Gallwch ddod o hyd i'w manylion drwy nodi eich côd post yn Fy mhleidlais i (Yn agor ffenestr newydd)

Sut rydw i'n ymuno neu'n gadael y gofrestr agored?

Gallwch dynnu'ch manylion ar unrhyw adeg drwy e-bostio etholiadau@abertawe.gov.uk gyda'ch  enw a'ch cyfeiriad llawn.

Gallwch hefyd ofyn i gael eich cynnwys yn y gofrestr agored. Gallwch wneud hyn drwy e-bost  neu drwy ffonio 01792 636123.

Byddwn hefyd yn ysgrifennu atoch i gadarnhau unrhyw newid.

Os ydych yn cofrestru ar-lein yn Y Comisiwn Etholiadol (Yn agor ffenestr newydd), gallwch glicio ar y blwch gwirio os nad ydych am i'ch enw a'ch cyfeiriad fod ar y gofrestr agored.

Close Dewis iaith