Toglo gwelededd dewislen symudol

Grantiau addysgol

Mae'r grantiau hyn ar gael ar gyfer addysg bellach.

Cronfa Ymddiriedolaeth Harold a Joyce Charles

Amcan yr ymddiriedolaeth yw hyrwyddo addysg myfyrwyr graddedig fel y gallant ennill cymhwystergradd pellach, er budd y cyhoedd yn gyffredinol a phreswylwyr yr ardal o fudd, h.y. yr ardal ddaearyddol a weinyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe.

Gwahoddir ceisiadau gan breswylwyr yr ardal o fudd.

Diffinnir preswylwyr fel a ganlyn:

  • Person sy'n breswylydd yn ystod y tymor yn unig (hynny yw, myfyrwyr sy'n mynychu sefydliad yn yr ardal)
  • Person sy'n breswylydd y tu allan i'r tymor yn unig (hynny yw, myfyrwyr sy'n mynychu sefydliad y tu allan i'r ardal)
  • Graddedigion sy'n byw yn yr ardal fel rheol.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cyllid, rhaid bod myfyrwyr yn:

  • Byw yn yr ardal (fel yr amlinellir uchod)
  • Ymgymryd â gradd bellach
  • Ni ddylent fod yn derbyn cyllid gan unrhyw gorff dyfarnu arall.

Mae ffurflenni cais ar gael yn:

Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes
Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Canolfan Ddinesig
Port Talbot
SA13 1PJ

Dylid nodi "Harold a Joyce Charles Trust Fund"ar bob cais a chynnwys amlen â stamp.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mai bob blwyddyn.

 

Cronfeydd Ymddiriedolaeth Addysgol Abertawe

Ysgoloriaethau Thomas ac Elizabeth Williams (ardal ysgol Casllwchwr)

Cronfa Ymddiriedolaeth Sefydliad Abertawe ac Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Abertawe

Gwahoddir ceisiadau am gymorth i ddilyn cyrsiau gradd uwch amser llawn (heb gynnwys PhD) gan raddedigion ac unigolion â chymwysterau proffesiynol neu dechnegol sy'n cyfateb i radd.

I fod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer Ysgoloriaeth Thomas ac Elizabeth Williams, mae'n rhaid bod ymgeiswyr wedi bod yn byw yn yr ardal sy'n cynnwys hen fwrdeistref Casllwchwr am o leiaf ddwy flynedd yn union cyn dyddiad y cais am ysgoloriaeth NEU wedi'u haddysgu mewn sefydliad yn ardal hen fwrdeistref Casllwchwr am o leiaf ddwy flynedd ar unrhyw adeg cyn dyddiad y cais am ysgoloriaeth.

I fod yn gymwys ar gyfer Ymddiriedolaeth Sefydliad Abertawe ac Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Abertawe, mae'n rhaid bod ymgeiswyr yn byw yn Ninas a Sir Abertawe, neu wedi'u haddysgu yn Ninas Abertawe.

Bydd ymgeiswyr yn cael eu paru â'r Ymddiriedolaeth(au) sy'n briodol i'r manylion a ddarperir ar y cais.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy gysylltu â:

Spencer Martin

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Awst bob blwyddyn.

 

Close Dewis iaith