Gwarchodwr plant cofrestredig
Mae gwarchodwyr plant yn gweithio yn eu cartrefi eu hunain, ac maent wedi'u cofrestru i ofalu am hyd at 6 phlentyn dan 12 oed unig (gan gynnwys eu plant eu hunain).
Oherwydd natur y swydd, gall gwarchodwyr plant weithiau gynnig oriau hyblyg megis gofal gyda'r nos, penwythnosau neu weithiau dros nos.
Cofrestrir gwarchodwyr plant gydag Care Inspectorate Wales (CIW).
Sylwer bod rhaid i unrhyw berson sy'n gweithio yn ei gartref ei hun ac sy'n derbyn gwobr (ariannol neu wasanaeth tebyg yn ol) am ofalu am blant dan 12 oed am fwy nag 1 awr a 59 munud y dydd gofrestru gyda'r AGC.
I gofrestru, mae'n rhaid i chi:
- Fod dros 18 oed.
- Mynd i sesiwn friffio a ddarperir gan PACEY Cymru. I gadw lle yn y sesiwn friffio, ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD).
- Cyflawni'r CACHE yn llwyddiannus. Deall sut i sefydlu gwasanaeth gofal plant o'ch cartref (CYPOP5). Mae'r CYPOP5 yn gwrs 14 awr a rennir i wahanol sesiynau. Mae'n rhaid cwblhau'r cwrs, ni waeth pa gymwysterau gofal plant eraill sydd gennych.
- Cyflwyno rhannau un a dau eich cais i AGC. (Mae PACEY Cymru yn cynnig sesiynau mentora i'ch helpu a'ch arwain drwy'r broses gais).
Sylwer y bydd rhaid i chi a phob aelod o'ch aelwyd sydd dros 16 oed gael datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).
Mae gwarchodwyr plant yn hunangyflogedig. Gallant drafod contract am eu gwasanaeth a chodi tal amdano. Mae Gwarchodwr Plant yn gyfrifol am dalu ei gyfraniadau trethi ac yswiriant gwladol ei hun.
Mae'r rhan fwyaf o warchodwyr plant yn aelodau o Professional Association for Childcare and Early Years (PACEY Cymru) i gael mwy o wybodaeth, ffoniwch Swyddog Datblygu PACEY Cymru.