Gwasanaethau cymorth dydd
Wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio, rydym wedi bod yn ystyried sut gallwn ailddechrau rhoi cymorth dydd yn y ffordd fwyaf diogel posib.
Nid yw'n bosib dychwelyd i'n gwasanaethau fel yr oeddent cyn y pandemig ar hyn o bryd. Mae hyn yn rhannol oherwydd yr angen i roi trefniadau cadw pellter cymdeithasol a mesurau rheoli heintiau eraill ar waith. Mae hyn hefyd oherwydd nad oes gennym gyflenwad staff llawn eto.
Rydym bellach mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein trefniadau cymorth dydd a ddarperir gan Gyngor Abertawe.
Darllenwch yr wybodaeth isod:
Gwybodaeth i unigolion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol - Awst 2021 (PDF) [97KB]
Cwestiynau cyffredin - cyfleoedd dydd
Rydym wedi rhoi rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin am Gyfleoedd Dydd at ei gilydd: Cwestiynau cyffredin - cyfleoedd dydd.
Trefniadau cymorth dydd - cynllun adeiladu cymorth dydd brys
Mae Darpariaeth Gwasanaeth Oedolion wedi cyhoeddi Cynllun Adeiladu sy'n nodi pa adeiladau sydd ar agor ar draws Abertawe ar hyn o bryd sy'n darparu cefnogaeth ddydd, a'u gallu presennol oherwydd pellter cymdeithasol
Bydd y Cynllun hwn yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd ac mae i'w weld yma: Cynllun adeiladau cymorth diwrnod brys - Gorffennaf 2021 (PDF) [71KB].
Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth
Fforwm Rhieni Ofalwyr Abertawe
Cymunedau Digidol Cymru (DCWO)
Taliadau Uniongyrchol a Covid-19 Cwestiynau Cyffredin (PDF) [129KB]