Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyfeillion Castell Ystumllwynarth

Mae angen eich cymorth ar eich Castell!

Friends of Oystermouth Castle

Friends of Oystermouth Castle
Cyfeillion Castell Ystumllwynarth - Gwirfoddolwyr yn Eisiau!

  • Ydych chi'n mwynhau cwrdd â phobl newydd?
  • ​Oes gennych ddiddordeb mewn hanes, archaeoleg ac addysg?
  • Hoffech chi gymryd rhan yn eich cymuned leol?

Pwy ydyn ni?

Wedi'i sefydlu ym 1989, mae Cyfeillion Castell Ystumllwynarth yn grŵp gwirfoddol o bobl sy'n rheoli'r castell o ddydd i ddydd yn ystod y tymor agored.

Mae'r castell wedi cael gwaith cadwraeth gwerth miliynau o bunnoedd yn ddiweddar ac mae'r datblygiadau hyn wedi cymryd rhan ym mywyd y castell yn fwy cyffrous nag erioed.

Gwahaniaeth er Gwell

Caiff unrhyw un ymuno fel cyfaill a gwirfoddoli. P'un a ydych chi newydd ymddeol, yn fyfyriwr sy'n chwilio am brofiad gwaith neu'n rhywun sydd ag ychydig oriau'n rhydd - mae llawer o gyfleoedd newydd i gymryd rhan ynddyn nhw yng Nghastell Ystumllwynarth. 

Pa rôl bynnag rydych chi'n ei dewis, does dim angen profiad blaenorol arnoch chi a chewch gefnogaeth a hyfforddiant llawn.

Mae dod yn gyfaill yn llawer o hwyl ac yn rhoi'r cyfle i chi ddysgu am hanes y castell, yn ogystal â chwrdd ag ymwelwyr sy'n dod o bedwar ban byd.

Rolau Gwirfoddoli

  • Fel tywysydd
  • Datblygu addysg a dysgu gydol oes
  • Ehangu ein gwybodaeth am hanes y castell trwy ymchwil
  • Cynorthwyo gyda chreu a threfnu digwyddiadau
  • Croesawu ymwelwyr a rhannu gwybodaeth

Manteision Gwirfoddolwyr​

Mae gan bob cyfaill yr hawl i'r canlynol:

  • Mynediad am ddim i Gastell Ystumllwynarth, gyda 2 aelod o'r teulu
  • Cyfleoedd rheolaidd i fynd i ddigwyddiadau cymdeithasol
  • Y cyfle i gael mynediad i amrywiaeth o gefnogaeth a hyfforddiant parhaus

Gwirfoddoli yng Nghastell Ystumllwynarth Gwirfoddoli yng Nghastell Ystumllwynarth


Cysylltwch Cydlynydd Datblygiad Castell Ystumllwynarth neu Ysgrifennydd, Cyfeillion Castell Ystumllwynarth, 07778 120294 

Close Dewis iaith