Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyrru am oes (65+ oed)

Cwrs gloywi i yrwyr hŷn (65+ oed) sydd am ddiweddaru eu sgiliau gyrru cyffredinol a gwella'u hyder yw Gyrru am Oes.

Mae'n gwrs un diwrnod a gynhelir yng Ngorsaf Dân Gorseinon ac mae'n cynnwys sesiwn ddosbarth yn y bore a sesiwn ymarferol yn y prynhawn.

Mae sesiwn y bore yn cynnwys diweddariad ar Reolau'r Ffordd Fawr, meysydd risg gyrwyr hŷn a sut i'w lleihau, a phroblemau iechyd a symudedd i yrwyr hŷn yn ogystal ag archwilio ymwybyddiaeth o beryglon, gyrru ar y draffordd a gyrru tymhorol.

Hyfforddiant ymarferol ar y ffordd fydd sesiwn y prynhawn gyda Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy cymwys sy'n cynnwys unrhyw agwedd ar yrru mwy diogel yr hoffech ei gloywi.

Nid oes prawf nac asesiad ar y diwrnod a chost y cwrs yw £20 yn unig i breswylwyr Abertawe, sy'n cynnwys cinio. 

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ar y cwrs cysylltwch â ni.

Close Dewis iaith