Hoci dan do
Hoci Dan Do yw amrywiad ar hoci cae sy'n cael ei chwarae dan do. Mae'r cae a'r goliau'n llai na'r fersiwn awyr agored. Yn gyffredinol, mae'r timau'n cynnwys pum chwaraewr ac un gôl-geidwad.
Mae'r chwaraewyr yn defnyddio'u ffyn hoci i anelu'r bêl at gôl ei wrthwynebwyr. Gellir gwthio neu anelu'r bêl yn unig - ni allwch ei fwrw.
Mae Hoci Dan Do yn gêm gyffrous, gorfforol a chyflym. Mae angen llawer o egni a chryfder corfforol i chwarae'r gêm sy'n gwella'r system gardiofasgwlaidd ac yn helpu i adeiladu a chryfhau'r cyhyrau.
Mae hefyd yn helpu i ddatblygu atgyrchion a gwella cydgysylltiad llaw a llygad.
Ble gallaf chwarae hoci dan do yn Abertawe?
Yn eich canolfan hamdden a chwaraeon leol
- Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt - Freedom LeisureYn agor mewn ffenest newydd - 01792 235040
- Canolfan Hamdden Penyrheol - Freedom LeisureYn agor mewn ffenest newydd - 01792 897039
Mwy o Wybodaeth
Os hoffech chwarae hoci ond bod angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch y Swyddog Datblygu Hoci ar 01792 635218.