Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Sut gall y Gwasanaethau Cymdeithasol helpu gyda'ch gofal a'ch cefnogaeth

Gwybodaeth am beth sy'n digwydd pan fyddwch yn cysylltu â Gwasanaethau Oedolion yn Abertawe.

Mae'r Awdurdod Lleol a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda phobl i wella'u lles. Rydym am gynorthwyo pobl pan fônt yn pryderu am eu lles eu hunain neu les pobl eraill neu maent am rannu pryder.

Gwybodaeth, cyngor a chymorth

Pan fydd person yn cysylltu â ni am y tro cyntaf, bydd un o'n staff hyfforddedig yn gofyn nifer o gwestiynau i ganfod mwy am sefyllfa'r person hwnnw - neu sefyllfa'r person maent yn ffonio yn ei gylch - a pha fath o gefnogaeth fyddai fwyaf defnyddiol. 

Ein man cychwyn yw rhoi digon o wybodaeth i bobl ddiwallu eu gofynion personol, a chreu eu cynlluniau gofal a chefnogaeth eu hunain. Ceir dolenni i sefydliadau sy'n darparu cyngor a chefnogaeth drwy ein holl we-dudalennau.

Gall anghenion gofal cymdeithasol llawer o bobl gael eu diwallu gan wasanaethau a gweithgareddau a ddarperir yn y cymuned leol. Ein nod yw dweud wrth bobl am yr help sydd ar gael yn lleol, yn eu cymunedau.

Gall ein Tîm Cydlynu Lleol roi gwybodaeth i chi am grwpiau neu sefydliadau yn Abertawe a fyddai'n gallu eich helpu chi.

Ein nod yw darparu gwybodaeth sy'n hawdd ei deall a chael mynediad iddi.

Asesiadau

Yn ogystal â sicrhau bod Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar gael i ddinasyddion Abertawe i helpu i hyrwyddo'u lles, mae'n rhaid i'r Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig asesiad os ydynt yn meddwl bod angen gofal a chefnogaeth ar rywun, neu gefnogaeth ar ofalwr.

Gall asesiad helpu i weld a oes gan berson anghenion gofal a chefnogaeth, a ganfod a yw'n gymwys am help gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Efallai byddwn hefyd yn cynnal asesiad os ydym yn meddwl bod person mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.

 Lle byddwn yn darparu cefnogaeth neu wasanaethau, bydd hyn yn cael ei angen yn aml am amser byr yn unig, a bydd yn canolbwyntio ar roi'r sgiliau a'r hyder i chi ymdopi'n annibynnol heb ein cefnogaeth.

Taliad uniongyrchol

Trefnu eich cefnogaeth eich hun gyda thaliad uniongyrchol.

Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC)

Yn Abertawe, rydym yn ceisio darparu cefnogaeth briodol ac amserol i oedolion a'u gofalwyr gan y person cywir.

Pryderi am gam-drin posibl?

Beth dylech chi ei wneud os ydych yn meddwl bod oedolyn diamddiffyn mewn perygl o gael ei gam-drin.

Cwynion am y Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwyno sylwadau, cwynion neu ganmoliaeth am y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Help mewn Argyfwng gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Nos, ar Benwythnosau a Gwyliau Banc

Gwybodaeth ar gyfer pobl y mae angen iddynt gysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i'n horiau gwaith arferol.

Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion

Sut mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn asesu'ch anghenion gofal a chefnogaeth.
Close Dewis iaith