Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Lesddeiliaid y cyngor

Os brynoch chi eich fflat neu'ch fflat ddeulawr dan gynllun 'Hawl i Brynu' y llywodraeth neu gan rywun sydd eisoes yn berchen ar yr eiddo, rydych yn prynu prydles yr eiddo hwnnw ac rydych felly'n lesddeiliad y cyngor.

Mae hyn yn rhoi'r hawl gyfreithiol i chi aros yn eich cartref am gyfnod y brydles ar yr amod eich bod yn cydymffurfio ag amodau'r brydles.

Pan fyddwch yn prynu fflat neu fflat ddeulawr, chi sydd yn gyfrifol am gynnal a chadw y tu mewn i'r eiddo hwnnw.

Rydym yn dal i fod yn berchen ar ardaloedd allanol a chymunedol yr adeilad rydych chi'n byw ynddo ac mae gennym gyfrifoldeb am atgyweirio a chynnal a chadw'r ardaloedd hynny.

Bydd gofyn i chi dalu am unrhyw waith atgyweirio a chynnal a chadw sy'n cael ei wneud yn y mannau hynny, a thâl yswiriant a rheoli hefyd. Byddwch yn talu am y rhain drwy dâl gwasanaeth blynyddol.

Cwestiynau cyffredin - prydlesu

Cwestiynau cyffredin ar gyfer ein lesddeiliaid

Swyddog Lesddaliad

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am brydlesu eiddo'r cyngor a ni allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano ar-lein, gallwch gysylltu â ni'n uniongyrchol.
Close Dewis iaith