Lleoedd Meithrin yn Abertawe
Yn Abertawe mae Ysgol FAbanod Brynhyfryd a phob ysgol gynradd yn darparu addysg ran-amser i rieni sy'n dymuno i'w plentyn fynd i ddosbarth meithrin.
Polisi'r awdurdod lleol yw darparu addysg feithrin ran-amser yn unig. Mae darparu addysg feithrin yn anstatudol sy'n golygu y gall rhieni benderfynu a ydynt am le meithrin i'w plentyn ai peidio. Mae hawl gan bob plentyn i le rhan am ddim (lleiafswm o 10 awr yr wythnos) mewn dosbarth meithrin ar gyfer y tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd.
Cyn-meithrin
Mae cyn-meithrin, y cyfeirir ato weithiau fel Codi'n Dair, yn ddarpariaeth ran-amser. Bydd lle cyn-meithrin ar gael i'ch plentyn o'r tymor ar ol ei drydydd pen-blwydd er bod posibilrwydd na fydd yn yr ysgol agosaf at gyfeiriad eich cartref. Dylai rhieni gysylltu a'u hysgol o ddewis i ofyn a oes lleoedd meithrin ar gael. Os nad oes lle ar gael ar unwaith, efallai bydd rhaid i chi roi enw'ch plentyn ar restr aros. Gallwch gysylltu ag ysgolion eraill i ofyn a oes lle ganddynt neu ffonio'r Ganolfan Ddinesig ar Canolfan Ddinesig am gyngor.
Meithrin
Mae lleoedd meithrin rhan-amser ar gael i ddisgyblion yn y flwyddyn academaidd pan fyddant yn cael eu pen-blwydd yn bedair oed. Mae'r Awdurdod Lleol yn bwriadu newid y ffordd y bydd rhieni yn gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin i'w plentyn. Nid yw'r trefniadau wedi'u cadarnhau eto, felly cynghorir rhieni i gysylltu a phennaeth yr ysgol o'u dewis i wneud cais am le yn y ffordd arferol. Gall y pennaeth hysbysu rhieni os yw'r system wedi newid a hefyd eu cynghori am unrhyw drefniadau amgen a allai gael eu rhoi ar waith. Nid yw bob amser yn bosib i blentyn gael ei dderbyn i ddosbarth meithrin yn nalgylch ei gyfeiriad cartref. Os mai dyma yw'r achos, bydd lle amgen ar gael.
Nid oes unrhyw hawl apelio yn erbyn gwrthod cynnig lle meithrin mewn ysgol benodol.