Llyfrgelloedd
Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at gannoedd o wasanaethau'r cyngor ar-lein.
Bydd Llyfrgell Clydach ar gau o dydd Sadwrn 2 Gorffennaf nes ddydd Sadwrn 16 Gorffennaf er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Bydd eitemau i'w dychwelyd yn ystod y cyfnod cau'n cael eu hadnewyddu am gyfnod benthyca ychwanegol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. E-bostiwch llyfrgelloedd.abertawe@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 637503 am wybodaeth bellach.
O 4 Ebrill ni fyddwn yn adnewyddu eitemau sy'n cael eu benthyca yn awtomatig a byddwn yn dilyn y cyfnodau benthyca cyhoeddedig. Os hoffech adnewyddu'ch llyfrau, gellir gwneud hyn yn bersonol mewn unrhyw lyfrgell, ar-lein trwy ein catalog neu ar ap PORI, neu drwy gysylltu â'ch llyfrgell leol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ohirio'r taliadau am ddychwelyd eitemau'n hwyr (neu ddirwyon) sydd wedi bod ar waith ers mis Mawrth 2020, tan 31 Mawrth 2023.
Mae gennym 17 llyfrgell yn ogystal â gwasanaeth dosbarthu i'r cartref i gwsmeriaid nad ydynt yn gallu cyrraedd eu llyfrgell leol. Rydym hefyd yn cynnig nifer o wasanaethau digidol i'n haelodau.