Toglo gwelededd dewislen symudol

Llys Nini

Mae Llys Nini yn perthyn i gangen Llys Nini y Gymdeithas Frenhinol Diogelu Anifeiliaid (RSPCA) ac mae'n gartref i ganolfan anifeiliaid.

Mae'r safle yn cynnwys glaswelltir, glaswelltir gwlyb, glaswelltir wedi'i wella a heb ei wella, coetir collddail hynafol, nentydd, pyllau, prysgwydd ar hen domen diwydiannol, hen waith glo brig sydd wedi'i adfer a choetir wedi'i goedlannu.

Uchafbwyntiau

Mae rhywogaethau o ddiddordeb yn cynnwys barcutiaid coch, llygod bronfelen, madfallod, infertebratau dwr, ieir bach yr haf a gwyfynod.

Dynodiadau

  • Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN 203)

Cyfleusterau

  • Ymweliadau addysgol drwy drefniant
  • Ystafell ddosbarth a darlithfa
  • Cuddfan gwylio adar
  • Gwersi wedi'u paratoi ar gyfer pob cyfnod addysg allweddol
  • Taflen wybodaeth i athrawon ar ymweliadau â'r safle
  • Toiled
  • Maes parcio
  • Hygyrch i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio
  • Bwrdd tapio i'r rhai â nam ar y golwg
  • Swyddog addysg gwirfoddol (rhan-amser)

Gwybodaeth am fynediad

Penllergaer
Cyfeirnod Grid SS609995
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Oriau agor

bob dydd 11.00am - 3.45pm (ac eithrio dydd Mercher).

Llwybrau cerdded

Mae'r pwll a'r llwybr coediog yn addas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.

Ceir

Maes parcio ar y safle. Mynediad i'r safle oddi ar yr A48 rhwng Penllergaer a Phontlliw.

Bysus

Mae'r safle bws agosaf ger diwedd y dramwyfa i Lys Nini, tua 12 munud o gerdded.

Close Dewis iaith