Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mabwysiadu mainc - amodau a thelerau

Treuliwch funud yn darllen ein hamodau a thelerau.

Cynllun seddau a roddir

Gallwn ddarparu seddi cadarn gyda'ch neges bersonol ynghlwm wrth blac.

Mae pris y sedd a ddarperir yn cynnwys:

  • Cyflenwi a dosbarthu
  • Sylfaen addas
  • Gosod
  • Plac

Placiau ac ysgythriad

Mae tri phrif fath o blac y gellir eu gosod; maent yn 55mm o uchder ac mae eu hyd yn addas i'w ffitio ar yr astell gefn uchaf.

  • Dur gwrthstaen
  • Pres
  • Plastig
  • Arysgrif yn yr astell uchaf (seddi Brompton a Grafton yn unig).

Sylwer: Bydd placiau efydd yn colli sglein gydag amser.

Mae placiau plastig yn ddewis amgen, pob tywydd, gyda llythrennau du ar gefndir lliw efydd.

Sylfaen a phadiau

Bydd lleoliad y sedd yn dibynnu ar y sylfaen y caiff y sedd ei rhoi arni - mae hyn yn berthnasol i seddi plastig Grafton a seddi wedi'u hailgylchu'n unig, a fydd yn cael eu gosod yn sownd naill ai ar sylfaen goncrit neu bad concrit o dan bob un o'r ddau gynhaliad unionsyth.

Cyngor Abertawe fydd yn talu am osod y sedd a'i chynnal a'i chadw yn y dyfodol.

Manylion y seddi a roddir sydd ar gael

 

Amodau a thelerau

  1. Er y bydd y cyngor yn ceisio darparu ar gyfer dewis yr ymgeisydd ar gyfer y math o sedd a'i lleoliad, mae'r cyngor yn cadw'r hawl i wrthod cais os nad yw'r sedd yn cyd-fynd â'r seddi cyfagos a/neu os yw'r lleoliad a ffefrir yn anaddas.
     
  2. Bydd y gost fesul sedd yn gallu newid os bydd cais i leoli sedd mewn lleoliad lle cyfyngir ar fynediad sy'n atal mynediad i gerbydau ac yn golygu bod costau ychwanegol i'r cyngor.
     
  3. Mae'r cynllun sedd a roddir ar gael ar gyfer rhoi seddi ar dir sy'n eiddo i adran Diwylliant a Thwristiaeth Dinas a Sir Abertawe yn unig, ac os gwneir cais am sedd ar dir dan berchnogaeth adran arall o'r cyngor, byddai'n rhaid i ni gael caniatâd yr adran berthnasol cyn derbyn cais y rhoddwr.
     
  4. Pan fydd rhoddwr yn dymuno cyfrannu sedd, fe'i cynigir ar y sail bod safle gwag ar gael yn yr ardal honno. Yn anffodus, ni allwn osod seddi ychwanegol a roddir mewn ardaloedd lle mae gormod o seddi ac os felly, cynigir dewis i'r rhoddwr o safle arall sydd ar gael neu ddewis arall.
     
  5. Ar ôl gosod y sedd daw'n eiddo i'r cyngor, a'r cyngor fydd yn atebol ac yn gyfrifol am yr holl ofynion cynnal a chadw dros gyfnod o ddeng mlynedd. Caiff hyn ei adolygu yn ôl ei ddisgresiwn. Ni ddylai'r rhoddwr, ei deulu na'i gynrychiolydd wneud unrhyw waith cynnal a chadw o unrhyw fath.
     
  6. Bydd y cyngor yn cynnal a chadw meinciau a roddir a phlaciau pan ystyrir bo hynny'n angenrheidiol.
     
  7. Cynghorir ymgeiswyr i roi gwybod i'r cyngor am unrhyw newid cyfeiriad yn ystod cyfnod y cyflwyniad.
     
  8. Cynghorir yr ymgeisydd i gwrdd â'r Swyddog Parciau perthnasol ar y safle i gadarnhau lleoliad dewisol y sedd a roddir cyn cyflwyno'r cais.
     
  9. Caiff yr holl seddi i'w lleoli mewn parciau a mannau agored eu gosod yn ddiogel ar sylfaen addas sy'n gweddu i leoliad y sedd gan ddefnyddio dull cymeradwy. Fodd bynnag, ni all y cyngor gymryd cyfrifoldeb am ddifrod maleisus, seddi a ddygir, na difrod oherwydd gweithredoedd natur.
     
  10. Yn yr achos annhebygol y caiff y plac coffa ei ddifrodi neu ei ddwyn o fewn deuddeng mis ar ôl ei osod, bydd y cyngor yn gosod un newydd ac yn talu amdano. Ond, os caiff mainc ei difrodi ac nid oes modd ei hatgyweirio, bydd y cyngor yn cael gwared arno ac yn rhoi gwybod i chi am hyn. Codir y tâl safonol sy'n berthnasol ar yr adeg honno am fainc i'w gosod yn ei lle.
     
  11. Nid yw'r ffaith bod y cyngor yn derbyn y cais hwn yn golygu y rhoddir unrhyw hawliau neu freintiau eiddo.
     
  12. Mae'r rheolwr yn cadw'r hawl i amrywio neu wrthod arysgrif anaddas.
     
  13. Ni fydd Cyngor Abertawe'n caniatáu i weddillion amlosedig gael eu gwasgaru.
     
  14. Nid oes gan y cyngor unrhyw ymrwymiad i dderbyn unrhyw gais am sedd a roddir ac mae'n gobeithio y bydd ymgeiswyr yn deall bod nifer ac arddull y seddi'n ystyriaeth bwysig os yw'r cyngor am gadw mannau agored cyhoeddus yn edrych yn ddeniadol ac yn glir.
     
  15. Ni ddylai unrhyw addurniadau er enghraifft blodau gael eu clymu na'u gosod ar y sedd a roddir neu'r ardal o'i hamgylch ar unrhyw adeg.
     
  16. Gosodir seddi o fis Hydref tan fis Mawrth a phan fydd cyflwr y tir a'r tywydd yn addas.
     
  17. Caiff yr holl geisiadau a dderbynnir i brynu seddi eu hychwanegu at y gofrestr, a chant eu gosod yn nhrefn y dyddiad y derbyniwyd y cais.
     
  18. Y cleient sy'n gyfrifol am roi gwybod i'r cyngor am unrhyw newid o ran manylion cyswllt.
     
  19. Y cyfnod mabwysiadu yw 10 mlynedd - ar ôl i'r cyfnod o 10 mlynedd fynd heibio, bydd y cyngor yn ceisio cysylltu â'r cleient yn ysgrifenedig i ddweud bod y cyfnod wedi mynd heibio a chynnig opsiynau. Os nad yw'r cyngor yn cael ymateb gan y cleient o fewn 28 niwrnod calendr, mae'n cadw'r hawl i symud y fainc neu ei hamnewid neu gynnig y safle i gleient arall ei fabwysiadu.
     
  20. Gall gymryd hyd at 26-30 wythnos i gyflenwi a gosod sedd ar ôl derbyn archeb yn ystod y cyfnod gosod.
     
  21. Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn pan fo angen.
Close Dewis iaith