Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg ddewisol yn y cartref - mynd i'r afael a darpariaeth annigonol

Gwneir pob ymdrech i ddatrys materion ynghylch darpariaeth drwy gwblhau proses o ddeialog barhaus cyn sbarduno unrhyw weithdrefnau ffurfiol.

Wrth ystyried darpariaeth yr addysg, os oes amheuaeth bod y ddarpariaeth yn annigonol efallai bydd yr ALI yn dewis ymchwilio ymhellach i b'un a oes addysg effeithlon yn cael ei darparu neu beidio. Os nad yw deialog yn llwyddiannus, caiff adroddiad ysgrifenedig llawn ar ganfyddiadau'r AALI ei lunio a gwneir copi ar gyfer y rhieni, gan amlygu'r sail i unrhyw bryderon ac unrhyw resymau dros ddod i'r casgliad bod y ddarpariaeth yn anaddas.

Efallai y bydd yn angenrheidiol i'r ALI gyflwyno hysbysiad i'r rhieni. O dan Adran 437(1) Deddf Addysg 1996, gall yr ALI ymyrryd os oes ganddo reswm da dros gredu nad yw rhieni'n darparu addysg addas drwy gyflwyno Gorchymyn Mynychu'r Ysgol. Yn gyntaf bydd yr awdurdod lleol yn cyflwyno hysbysiad, a bydd hyn yn rhoi cyfnod o o leiaf 15 niwrnod i'r rhieni ddarparu pa wybodaeth bynnag sydd ei hangen ar yr ALI er mwyn iddo fod yn fodlon ar addasrwydd yr addysg. Gall y rhiant ddewis gwneud hyn trwy gwrdd a chynrychiolydd yr ALI naill ai yn y cartref neu mewn lleoliad y cytunwyd arno gan y ddwy ochr.

Mae Gorchymyn Mynychu'r Ysgol yn parhau i fod ar waith am yr holl amser y mae'r plentyn o oedran ysgol gorfodol oni bai y caiff ei ddiddymu. Gall rhieni gyflwyno cais i ddiddymu Gorchymyn Mynychu'r Ysgol ar unrhyw adeg oherwydd y gwnaed trefniadau i'r plentyn dderbyn addysg heblaw yn yr ysgol. Mae'n rhaid i'r ALI gydymffurfio a'r cais hwn oni bai fod y trefniadau hyn yn anaddas.

Close Dewis iaith