
Rhoi gwybod am newid amgylchiadau a all effeithio ar eich Budd-dal Tai
Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai ac mae eich amgylchiadau (neu amgylchiadau aelod o'ch aelwyd) yn newid, mae'n rhaid i chi gysylltu â ni ar unwaith oherwydd y gall hyn effeithio ar eich hawl i fudd-dal. Mae'n rhaid i chi ddweud wrthym os yw'ch cyfeiriad yn newid.
Eich Preifatrwydd
Cyngor Abertawe yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Defnyddir eich gwybodaeth wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod gofyn i ni neu y caniateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Esbonnir hyn yn fanylach ar-lein yma.
Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data fel un sy'n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Abertawe'n defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol yma.
Cliciwch yma i Dweud am newid mewn amgylchiadau ar-lein
Dylai landlordiaid sy'n derbyn taliadau uniongyrchol o Fudd-dal Tai am denant hefyd roi gwybod am unrhyw newidiadau y maent yn cael gwybod amdanynt.
Y ffordd hawsaf i ddweud wrthym am newid yw cwblhau ein ffurflen ar-lein.
Yn dilyn cyfarwyddiadau'r Llywodraeth yn ddiweddar, mae llinellau ffôn ar gau dros dro. E-bostiwch eich ymholiad at budd-daliadau@abertawe.gov.uk a byddwn yn ceisio eich ateb cyn gynted ag y bo modd. Rydym yn ymdrin â nifer mawr o ymholiadau ar hyn o bryd, felly byddwch yn amyneddgar gyda ni.
Os nad ydych yn dweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau o fewn mis i'r newid, gallwch golli unrhyw gynnydd yn eich budd-dal neu, os oes gostyngiad yn eich budd-dal, gallech gael eich gordalu a bydd rhaid i chi ei ad-dalu.
Dyma rai enghreifftiau o newidiadau y dylech chi ddweud wrthym amdanynt:
- Rydych chi neu eich partner yn dod yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol neu mae eich dyfarniad Credyd Cynhwysol yn newid
- Mae eich incwm neu eich cyfalaf chi, eich partner neu rywun arall yn eich cartref yn newid*.
- Os ydych chi, eich partner neu aelod o'ch cartref yn gorffen derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol.
- Os ydych yn derbyn Credyd Cynilion Pensiwn ac mae eich cyfalaf * yn cynyddu i dros £16,000.
- Os ydych chi, eich partner neu aelod o'ch cartref yn dechrau gweithio.
- Os yw swm eich taliadau gofal plant yn newid.
- Nifer y bobl sy'n byw yn eich cartref yn newid (gan gynnwys unrhyw un sy'n byw gyda chyd-denant)
- Os yw eich cyfeiriad yn newid (i denantiaid preifat, mae hyn yn cynnwys newid ystafell yn yr un eiddo).
- Os nad ydych yn denant y cyngor ac mae newid yn y rhent rydych yn ei dalu.
- Mae eich landlord neu berchennog yr eiddo yn dod yn gyfrifol am unrhyw un o'ch plant.
- Os yw unrhyw un o'ch plant yn gadael yr ysgol.
- Os rydych chi neu'ch partner yn mynd i'r carchar.
- Os rydych chi neu'ch partner yn penderfynu aros mewn cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio'n barhaol.
- Os ydych chi'n gadael eich cyfeiriad am gyfnod dros dro e.e. os ydych yn mynd ar wyliau, yn mynd i'r ysbyty neu i gartref gofal preswyl.
- Os ydych yn absennol o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban), gall eich Budd-dal Tai ddod i ben o'r dyddiad rydych yn gadael Prydain Fawr os disgwylir i'ch absenoldeb bara dros 4 wythnos.
- Rydych chi neu eich partner yn dod yn fyfyriwr ac/neu nid oes newid i'ch incwm myfyriwr.
*cyfalaf - unrhyw gyfrif gyda banc neu sefydliad arall, cynilion, buddsoddiadau, eiddo neu dir
Os nad ydych yn siŵr am ba newidiadau y mae angen rhoi gwybod amdanynt cysylltwch â ni am gyngor.
Efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am dystiolaeth o'r newid ond byddwn yn siarad â chi am hyn pan fyddwch yn cysylltu â ni.
Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, mae angen i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau drwy linell ffôn y Ganolfan Gwasanaethau Credyd Cynhwysol 0345 6000 723 neu 0845 6000 723. Yna byddant yn rhoi gwybod i ni am y newid i'ch Credyd Cynhwysol.
Cliciwch yma i Anfonwch eich copïau electronig o'ch dogfennau atom gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Gallwch argraffu'r ffurflenni hyn, eu cwblhau a'u dychwelyd atom fel tystiolaeth.
-
Ystysgrif Enillion Gros Cyflogwr (PDF, 41KB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Ffurflen Gwybodaeth Am Enillion Cyfarwyddwr/Perchennog Cwmni/Person Hunangyflogedig (PDF, 66KB)Yn agor mewn ffenest newydd
I gael mwy o wybodaeth am sut mae hunangyflogaeth yn effeithio ar Fudd-dal Tai, ewch i'n tudalen gwybodaeth am hunangyflogaeth.
-
Ni ellir rhannu ystafell wely (PDF, 39KB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Ystafell ychwanegol i ofalwr (PDF, 40KB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Prawf o Daliadau Gofal Plant (PDF, 44KB)Yn agor mewn ffenest newydd
Os nad oes modd i chi ddarparu peth o'r dystiolaeth hon cysylltwch â ni a gallwn siarad am ffyrdd eraill i ni gael y prawf, efallai o ffynhonnell arall.