Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc y Cefnogwyr Abertawe

Parc Singleton, 20 Tachwedd - 18 Rhagfyr

Fan Park Swansea

Fan Park Swansea
Mae digwyddiad Parc Cefnogwyr Cwpan y Byd MWYAF Cymru yn dod i Abertawe!

Mae Cwpan y Byd Dynion FIFA 2022 yn nesáu, ac mae'n bleser gan Barc Cefnogwyr Abertawe eich gwahodd chi i Barc Singleton ar gyfer digwyddiad heb ei ail!

Bydd Parc Cefnogwyr Abertawe'n dangos POB gêm Cwpan y Byd yn ei babell fawr i 3,000 o bobl sydd wedi'i thwymo ym Mharc Singleton. Mae Parc Cefnogwyr Abertawe'n darparu cyfleusterau o safon uchel ac awyrgylch unigryw mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel - perffaith ar gyfer dathlu gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr fel ei gilydd!

GALWCH HEIBIO, AM DDIM:

Mae mynediad i'r lleoliad am ddim, yn amodol ar le. Yma, mae egwyddor y cyntaf i'r felin yn berthnasol. Mae rhai mannau yn cael eu cadw ar gyfer pobl sy'n galw heibio. Gellir archebu bwyd a diod o'r bar. Os ydych am gadw bwrdd yn y sesiwn galw heibio, rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd yn gynnar ar ddiwrnod y gêm.

Wrth gyrraedd: Dilynwch yr arwyddion mynediad. Mae'n rhaid i blant dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Rhagor o wybodaeth

Close Dewis iaith