
Partneriaeth Dysgu Abertawe
Rydym yn cynllunio gyda'n gilydd i gynnig amrywiaeth cynhwysfawr o gyrsiau. Ein nod yw darparu'r cyngor, yr arweiniad a'r gefnogaeth briodol wrth i chi wneud cynnydd drwy'r maes astudio rydych wedi ei ddewis.
Beth bynnag yw eich diddordeb, byddwn yn eich helpu i gael y profiad dysgu gorau posib.
Siarter dysgwyr
Beth gallwch ei ddisgwyl gennym ni
Gwybodaeth
- Gwybodaeth gywir (ffioedd, manylion cyrsiau, mynediad)
- Cyngor ac arweiniad am ddim (gyrfaoedd, anghenion unigol, ffynonellau cefnogaeth ariannol)
- Deunyddiau marchnata priodol
- Polisiau a gweithdrefnau clir
Canolfannau dysgu
- Adnoddau sy'n briodol i'ch dysgu
- Amgylchedd diogel a chroesawgar
Profiad dysgu
- Cyflwyniad llawn gwybodaeth i'ch cwrs
- Addysgu o safon gan staff sydd a chymwysterau priodol
- Amrywiaeth o gyrsiau
- Asesiadau ac adborth rheolaidd am eich cynnydd
- Cefnogaeth ar gyfer eich anghenion unigol
- Cyfleoedd rheolaidd i chi roi eich barn am y cwrs
Cyfleoedd pellach
- Cyngor ar eich camau nesaf
- Cyfleoedd i symud ymlaen
- Cyngor ar gyfleoedd cyflogaeth
- Dathlu eich cyflawniadau
Beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi
- Dangos parch at hawliau a theimladau pobl eraill
- Cymryd cyfrifoldeb dros eich dysgu eich hun (terfynau amser gwaith cwrs, presenoldeb prydlon a rheolaidd, hysbysu tiwtoriaid am newidiadau)
- Cadw at y rheolau o ran iechyd a diogelwch
- Trin yr amgylchedd dysgu gyda gofal a pharch
- Ein helpu i nodi arfer da er mwyn llunio a gwella dyfodol dysgu gydol oes yn Abertawe.