Coronafeirws - Profi, Olrhain, Diogelu
Daeth y trefniadau olrhain cysylltiadau cyffredinol i ben ddydd Iau, 30 Mehefin 2022. Mae olrhain cysylltiadau wedi'u targedu i amddiffyn y diamddiffyn ac mewn ymateb i achosion lleol yn parhau.
Daeth y cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu COVID-19 i ben ar 30 Mehefin 2022. Os gwnaethoch brofi'n bositif ac y bu'n rhaid i chi hunanynysu cyn neu ar 30 Mehefin 2022, ac rydych yn gymwys am gymorth, mae gennych 21 diwrnod ar ôl eich diwrnod olaf yn hunanynysu i wneud cais.
Cyngor a chanllawiau ynghylch olrhain cysylltiadau a hunanynysu
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu COVID-19, gallwch ffonio ein tîm arbenigol lleol ar 01792 637500 rhwng 9.00am a 7.00pm o ddydd Llun i ddydd Sul.
Gallwch ddod o hyd i atebion ar gyfer ymholiadau ynghylch budd-daliadau, ein cydlynwyr ardaloedd lleol a mwy trwy fynd i www.abertawe.gov.uk/CymorthCoronafeirws