Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Polisi masnachu ar y stryd

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i fasnachu ar y stryd yn Ninas a Sir Abertawe.

Diffiniad o fasnachu ar y stryd

Ystyr masnachu ar y stryd yw cynnig, gwerthu neu roi nwyddau ar werth (gan gynnwys pethau byw). Mae hyn yn golygu bod y cylch gwaith yn cynnwys hysbysebu a chynnig eitemau i'w gwerthu, er ei fod yn gyfyngedig i nwyddau'n unig ac nid gwasanaethau.

Mae masnachu ar y stryd yn cynnwys y weithred o werthu nwyddau ac nid cytundeb i werthu nwyddau yn unig. Hynny yw, mae angen i'r nwyddau fod ar gael yn ffisegol a rhaid i'r eiddo gael ei drosglwyddo fel rhan o'r contract rhwng y masnachwr a'r prynwr.

Nid yw rheolaethau Masnachu ar y Stryd yn berthnasol i'r canlynol:

  1. Masnachu fel pedler gyda thystysgrif bedler a roddwyd o dan Ddeddf Bedleriaid 1871.
  2. Marchnadoedd neu ffeiriau, lle mae awdurdod statudol i gynnal y farchnad neu ffair (er enghraifft drwy Siarter Frenhinol).
  3. Masnachu mewn ardal bicnic ar bwys cefnffordd a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Adran 112 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
  4. Masnachu fel gwerthwr papurau newyddion (dim ond papurau newyddion neu gyfnodolion y gellir eu gwerthu ac ni ddylai unrhyw stondin fod yn fwy na 1.0m x 1.25m x 2.0m o uchder ac ni ddylid ei gosod ar y ffordd gerbydau).
  5. Masnachu mewn gorsafoedd petrol neu ar flaen-gyrtiau gorsafoedd petrol.
  6. Masnachu mewn mangre a ddefnyddir fel siop, neu ar stryd sy'n gyfagos i'r fangre honno ac sy'n rhan o fusnes y siop.
  7. Gwerthu pethau, neu eu cynnig neu eu rhoi ar werth fel gwerthwr drws i ddrws.
  8. Rhedeg cyfleusterau at ddibenion masnachu neu hamdden neu luniaeth o dan Ddeddf Priffyrdd 1980, fel caffis palmant.
  9. Gweithgareddau a awdurdodwyd gan Adran 5 o Ddeddf Heddlu, Ffatrïoedd etc. (Darpariaethau Amrywiol) 1916, at ddibenion elusennol ac elusengar.

Mae masnachu ar y stryd hefyd yn waharddedig ar ffyrdd arbennig fel traffyrdd, meysydd gwasanaeth traffyrdd a phrif gefnffyrdd, ac ar 'stryd' sy'n cynnwys unrhyw ffordd, troedffordd, traeth neu ardal arall y mae mynediad cyhoeddus iddi heb dâl, fel a ddiffinnir yn Neddf Priffyrdd 1980.

1.0 Cyflwyniad

1.1. Mae'r polisi hwn yn cynnwys masnachu ar y stryd o fewn Dinas a Sir Abertawe (y cyngor) a bydd yn cydweddu â Dogfen Polisi Drosgynnol Canol y Ddinas yn y dyfodol.

1.2 At ddiben y polisi hwn, bydd y cyngor yn cynnwys dau barth. Parth mewnol, sy'n cynnwys canol y ddinas fel a nodir ar y cynllun yn Atodiad 1, a pharth allanol sy'n cynnwys holl ardaloedd eraill y sir y tu allan i'r parth mewnol.

1.3 Caiff caniatâd masnachu ar y stryd ei roi o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, Atodlen 4 - Masnachu ar y Stryd.

1.4 At ddiben y polisi hwn, mae'r holl strydoedd o fewn Dinas a Sir Abertawe'n strydoedd caniatâd, fel a nodir yn y Ddeddf.

1.5 Yn amodol ar eithriadau statudol, mae angen caniatâd masnachu ar y stryd i werthu unrhyw nwyddau ar dir y mae gan y cyhoedd fynediad iddo am ddim.

2.0 Ystyriaethau'r Parth Mewnol

2.1 Mae lleiniau dynodedig ar gyfer masnachu ar y stryd wedi'u nodi ar y map lleoliad yn Atodiad 1.

2.2. Bydd gan Reolwr Canol y Ddinas, yn amodol ar ymgynghoriad ag aelodau ward perthnasol, yr Ardal Gwella Busnes a'r Awdurdod Priffyrdd, gyfrifoldeb dirprwyedig dros gymeradwyo lleiniau ychwanegol i'r rheini sydd wedi'u dangos yn Atodiad 1. Gall hyn fod wrth i angen gweithredol gynyddu ac ar gyfer digwyddiadau yng nghanol y ddinas. Ymdrinnir ag apeliadau yn erbyn gwrthodiad gan y Pwyllgor Trwyddedu ar gais. Rheolwr Canol y Ddinas fydd yn trefnu Marchnad y Nadolig a'r marchnadoedd cyfandirol.

2.3 Bydd y gwerthiannau yn y lleiniau amrywiol yn cael eu gweithredu drwy stondin neu gerbyd, y mae eu harddull yn dderbyniol i Reolwr Canol y Ddinas, yn dilyn ymgynghoriad â'r aelod ward perthnasol a'r Ardal Gwella Busnes.

2.4 Mae angen caniatâd cynllunio dilys ar bob llain unigol os yw'n bwriadu gweithredu am fwy na 28 niwrnod. Bydd y cyngor yn sicrhau ac yn dal y caniatâd cynllunio angenrheidiol.

2.5 Y Math o Nwyddau Ar Werth

2.5.1 Mae'n rhaid i'r cyngor fod yn ystyriol o weithrediad y farchnad dan do, y siopau yng nghanol y ddinas a lleiniau masnachu ar y stryd eraill. Gall y cyngor gyfyngu ar werthu nwyddau gan fasnachwyr stryd i fathau nad ydynt yn cystadlu'n uniongyrchol â siopau, mannau gwerthu neu fasnachwyr stryd eraill yn yr ardal gyfagos.
 
2.5.2 Mae gan Reolwr Canol y Ddinas gyfrifoldeb dynodedig dros benderfynu ar y mathau o nwyddau y gellir eu gwerthu ac ym mha leoliadau. Cyn penderfynu, bydd Rheolwr Canol y Ddinas yn ymgynghori â'r aelodau ward perthnasol a'r Ardal Gwella Busnes.

2.5.3 Gellir atgyfeirio ceisiadau i werthu nwyddau sy'n cael eu gwrthod i Bwyllgor Trwyddedu'r cyngor i'w hapelio.

2.6 Gweithredwyr

2.6.1 Bydd y lleiniau amrywiol yn cael eu dyrannu yn amodol ar gytuno ar ffi 'rhentu' addas. Rheolwr Canol y Ddinas fydd yn gweithredu'r broses gyd-drafod.

2.6.2. Rhoddir blaenoriaeth i'r holl werthwyr presennol nes caiff eu caniatâd presennol ei ildio, ei ddiddymu neu ei ddileu am fethu talu ffïoedd, yn amodol ar gyd-drafod ffi llain dderbyniol.

2.6.3 Gellir darparu lleiniau tymhorol ar gyfer mathau penodol o nwyddau yn ôl disgresiwn Rheolwr Canol y Ddinas. Caiff apeliadau eu hystyried gan y Pwyllgor Trwyddedu.

2.6.4 Ni chaniateir i gerbydau mecanyddol a ddefnyddir ar gyfer lleiniau gael mynediad i ardaloedd craidd canol y ddinas ar adegau cyfyngedig.

2.6.5 Gweithredwr y llain fydd yn gyfrifol am osod unrhyw stondin a'i symud i le storio dros nos, yn ôl cyfarwyddid Rheolwr Canol y Ddinas.

3.0 Ystyriaethau'r Parth Allanol

3.1 Bydd lleiniau parhaol y tu allan i'r parth mewnol yn cael eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol, yn amodol ar y caniatâd cynllunio angenrheidiol a chaniatâd ysgrifenedig perchennog y tir ymlaen llaw.

3.2 Bydd caniatâd masnachu ar y stryd "cyffredinol" yn berthnasol i weithrediadau masnachu ar y stryd yn unman arall yn ardal y cyngor, y tu allan i'r parth mewnol, ond bydd angen caniatâd ysgrifenedig perchennog y tir ymlaen llaw o hyd.

4.0 Cyffredinol

4.1 Yn ogystal ag unrhyw ffi i weithredu ar y safle/rentu llain, mae ffi caniatâd masnachu ar y stryd yn daladwy i'r cyngor.

4.2 Mae'r weithred o roi neu adnewyddu caniatâd masnachu ar y stryd wedi'i rheoli gan y ddogfen ganiatâd, sy'n cynnwys amodau mewn perthynas â materion fel

- Rhwystrau

- Niwsans neu annifyrrwch

- Lleoliad y masnachu

- Amserau gweithrediad
 
- Rheoli sbwriel

- Unrhyw amodau eraill sy'n rhesymol angenrheidiol.

4.2.1 Pwyllgor Trwyddedu'r cyngor fydd yn pennu amodau newydd ac yn gweithredu fel canolwr yn ystod unrhyw apeliadau am amodau.

4.3 Mae caniatâd i fasnachu ar y stryd ar gael am uchafswm o 12 mis a chaiff ei roi ar sail pro rata am o leiaf 3 mis ar gais.

4.4 Gall Marchnad y Nadolig neu ddigwyddiadau eraill a drefnir effeithio ar rai o'r lleiniau dynodedig. Caiff y fath lleiniau eu cynnwys yn y digwyddiad neu caiff lleoliad amgen ei gynnig dros gyfnod y digwyddiad. Gall y gwerthwr ddewis y naill opsiwn neu'r llall, yn amodol ar dalu unrhyw gostau rhentu ychwanegol o fod yn rhan o'r digwyddiad ac yn amodol ar amodau, telerau a chaniatâd y tirfeddianwyr.

4.5 Ni chodir ffi ganiatâd ar gyfer digwyddiadau elusennol neu gymunedol ar raddfa fach lle mae masnachu ar y stryd yn rhan o'r digwyddiad (lle nad oes angen ffi fynediad i gael mynediad) (h.y. ffeiriau ysgol awyr agored, carnifal, digwyddiadau codi arian, gwerthiannau cist car) (heblaw am yr angen am wiriad PNC).

Bydd angen i unrhyw werthwr gweithrediad masnachol sy'n mynd i ddigwyddiad o'r fath gael caniatâd a bydd ffi ganiatâd yn daladwy.

4.5.1 Gweithredwyr masnachol yw'r rheini sy'n gweithredu fel busnes masnachol, er enghraifft busnesau mochyn rhost, pebyll/faniau cwrw, faniau byrgyr, planhigfeydd masnachol a busnesau eraill nad ydynt yn ymwneud â bwyd.

4.5.2 Bydd gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai a Diogelu'r Cyhoedd yr hawl i benderfynu ar statws masnachol y gwerthwr, gyda hawl i apelio i Bwyllgor Trwyddedu'r cyngor.

4.6 Mae ymgeiswyr sy'n gwneud cais am ganiatâd i fasnachu ar y stryd yn ymdrin â'r cyhoedd ac yn aml gyda phlant. Bydd angen felly i ymgeiswyr gyflwyno "chwiliad mynediad at ddata gan y testun" presennol (a wnaed o fewn y 28 niwrnod diwethaf ar y mwyaf) drwy Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu cyn rhoi caniatâd. Nid oes unrhyw apêl statudol yn erbyn penderfyniad i wrthod cais. Bydd pryderon ynghylch addasrwydd ymgeisydd yn cael eu hatgyfeirio i'r Pwyllgor Trwyddedu i'w hystyried yn unol â'r canllawiau ar berthnasedd euogfarnau.

4.6.1 Efallai y bydd gan drefnwyr digwyddiadau ganiatâd ar arddull 'ymbarél' a fydd yn berthnasol i fasnachwyr masnachol yn eu digwyddiadau, yn amodol ar wneud cais am y caniatâd angenrheidiol a chyflwyno gwiriad PNC.

4.7 Bydd swyddogion sydd wedi'u hawdurdodi dan bwerau dirprwyedig gan y Cyfarwyddwr priodol yn gyfrifol am orfodi masnachu ar y stryd a phedleriaid.

4.8 Bydd gan Reolwr Canol y Ddinas a swyddogion priodol eraill yr hawl i atgyfeirio unrhyw faterion i'r Pwyllgor Trwyddedu i'w hystyried, lle bo hynny'n briodol.

5.0 Ffïoedd Caniatâd Masnachu ar y Stryd

5.1 Codir ffïoedd gwahanol ar y parth mewnol ac allanol i adlewyrchu lefel y gorfodi sydd ei angen.
 
5.2 Caiff lefel y ffïoedd ei hadolygu'n flynyddol fel rhan o'r arferion cyllideb arferol.

5.3 Mae ffïoedd caniatâd yn daladwy yn ogystal ag unrhyw ffi rhentu llain. Y lleiafswm cyfnod caniatâd yw 3 mis, a'r uchafswm yw 12 mis.

5.4 Mae ffïoedd yn daladwy ymlaen llaw neu drwy gytundeb debyd uniongyrchol gydag Adran Gyllid y cyngor. Bydd unrhyw ddiffygdalu wrth dalu'r ffïoedd yn golygu bod y caniatâd yn ddi-rym.

5.5. Mae caniatâd y parth mewnol yn ddilys ar gyfer unrhyw fasnachu sy'n cael ei wneud yn y parth allanol. Oherwydd natur y nwyddau sy'n cael eu gwerthu, y berthynas ag unedau manwerthu presennol yng nghanol y ddinas, y ffi ganiatâd uwch a'r angen am ganiatâd cynllunio, nid yw caniatâd ar gyfer y parth allanol yn ddilys ar gyfer y parth mewnol.

Polisi masnachu ar y stryd (PDF)

Street Trading Policy

Polisi masnachu ar y stryd - appendix 1 (PDF)

Street Trading Policy - Appendix 1
Close Dewis iaith