Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut i ddelio ag anwedd a llwydni yn eich cartref

Gwybodaeth ddefnyddiol i leihau anwedd a thrin llwydni yn eich cartref.

 

Beth yw anwedd?

Mae lleithder yn yr aer drwy'r amser, hyd yn oed os nad ydych yn gallu ei weld. Fe'i cynhyrchir o fywyd arferol o ddydd i ddydd. Ceir lleithder pan fo aer llaith, cynnes yn cyrraedd arwynebau oer, sy'n peri i'r aer gyddwyso a ffurfio diferion o ddŵr, er enghraifft pan fydd anwedd yn ffurfio ar eich ffenestri.

Mae deffro a gweld anwedd ar ffenestri'n rhywbeth cyffredin i'r rhan fwyaf o bobl, yn enwedig yn y gaeaf. Nid yw fel arfer yn broblem a bydd yr anwedd yn diflannu wrth i chi agor y ffenestri am gyfnod byr er mwyn caniatáu awyru naturiol. Fodd bynnag, os bydd anwedd yn digwydd dros gyfnod hir ac nid yw'n clirio oherwydd diffyg awyru, bydd symptomau eraill yn ymddangos fel darnau llaith ar waliau, papur wal sy'n pilio ac yn y pen draw tyfiant o lwydni du. Yn ychwanegol, mae gan y rhan fwyaf o gartrefi ffenestri gwydr dwbl gyda seliau atal drafftiau ar ddrysau a ffenestri a all hefyd atal aer llaith rhag dianc.  

Ydych chi'n gwybod faint o leithder y mae gweithgareddau bob dydd yn ei gynhyrchu?

  • cyfanswm y lleithder a gynhyrchir yn eich cartref mewn un diwrnod: 28 peint
  • sychu dillad: 9 peint
  • coginio a berwi tegell: 6 peint
  • un anifail canolig ei faint: 4 peint
  • dau berson sy'n actif am ddiwrnod: 3 peint
  • defnyddio gwresogydd paraffin neu nwy potel: 3 peint
  • cael bath neu gawod: 2 peint
  • golchi dillad: 1 peint

Sut ydych chi'n gwybod os oes gennych anwedd?

Os oes anwedd yn eich cartref byddwch yn dechrau gweld arwyddion ohono yn gyflym iawn megis:

  • ffenestri ffrydiog (h.y. diferion o ddŵr arnynt)
  • mannau llaith ar waliau
  • papur wal sy'n pilio
  • arwydd o lwydni
  • arogl llwyd-ddrewllyd ar ddillad mewn cypyrddau dillad

Os gadewir anwedd i ddatblygu'n llwydni gall arwain at eiddo diolwg, drewllyd. Gall hefyd sbarduno problemau iechyd megis asthma a chwynion eraill neu eu gwneud yn waeth. 

Lleihau anwedd

Mae'n bosib lleihau'r anwedd yn eich cartref drwy gynhyrchu llai o ddŵr a thrwy adael i aer llaith ddianc o'ch cartref.

Cyffredinol

  • agorwch ffenestri yn y bore am 20 munud i adael awyr iach i mewn i'ch cartref
  • gadewch wyntyllau awyru ffenestri ar agor drwy'r flwyddyn
  • peidiwch â rhwystro gwyntyllau awyru a thyllau waliau
  • sychwch yr holl arwynebau a ffenestri lle ceir anwedd bob dydd - eich cyfrifoldeb chi yw hyn
  • ceisiwch adael y gwres ymlaen yn isel am sawl awr y dydd pan fydd hi'n oer - os yw'ch cartref yn gynnes, mae'n llai tebygol y byddwch yn gweld unrhyw anwedd
  • cadwch y drysau mewnol ychydig yn agored i ganiatáu i aer a gwres gylchredeg (oni bai eich bod yn coginio neu'n cael bath/cawod) 
  • os oes gennych System Awyru Mewnbwn Positif (PIV), a elwir hefyd yn Drimaster, gadewch hi ymlaen bob amser a chadwch y ffenestri a'r drysau allanol ar gau
    • bydd PIV yn lleihau'r lleithder yn yr aer yn eich cartref. Mae cartrefi sy'n cynnwys lefelau uchel o leithder yn ddrytach i'w gwresogi. Gall PIV helpu i leihau biliau ynni.
  • mae rhai gwyntyllau echdynnu wedi'u dylunio i'w gadael ymlaen drwy'r amser - byddant yn dod ymlaen ac yn diffodd yn awtomatig wrth i leithder (lleithder yn yr aer) gynyddu. Peidiwch â'u diffodd wrth y wal.
    • mae'r rhan fwyaf o wyntyllau echdynnu a osodir gan y cyngor yn costio tua £5 y flwyddyn i'w rhedeg
  • gadewch fwlch rhwng y dodrefn a'r waliau fel bo lle o'u cwmpas
  • cadwch gaeadau ar danciau pysgod
  • peidiwch â defnyddio gwresogyddion nwy mewn poteli (Calor etc) 
  • sicrhewch fod eich cartref wedi'i inswleiddio - rydym yn cynnig insiwleiddio'r llofft am ddim i denantiaid

Wrth goginio

  • coginiwch gyda chaeadau padell bob amser a throwch y gwres i lawr unwaith y bydd y dŵr wedi berwi
  • defnyddiwch yr isafswm o ddŵr yn unig ar gyfer coginio llysiau 
  • agorwch ffenestri'r gegin rywfaint a chaewch y drysau a throwch eich gwyntyll echdynnu ymlaen os yw'n un sy'n cael ei gweithredu â llaw - caniatewch i'r wyntyll redeg am oddeutu 15 munud ar ôl i chi orffen coginio
  • bydd gwyntyllau echdynnu sydd wedi'u dylunio i aros ymlaen bob amser yn cael gwared ar leithder gormodol yn yr aer yn awtomatig
  • peidiwch â defnyddio'ch ffwrn nwy i wresogi'ch cegin

Wrth ymolchi

  • wrth lenwi'r baddon, rhedwch y dŵr oer yn gyntaf - bydd yn lleihau'r ager sy'n arwain at anwedd hyd at 90%
  • defnyddiwch y wyntyll echdynnu bob amser wrth gael bath neu gawod a gadewch iddi redeg nes bod yr anwedd wedi clirio
  • cadwch ddrws yr ystafell ymolchi ar gau i atal lleithder rhag dianc
  • sychwch bob arwyneb oer a llaith gyda lliain sych

Golchi a sychu dillad

  • peidiwch byth â sychu dillad ar reiddiaduron - defnyddiwch hors ddillad
  • sychwch ddillad yn yr awyr agored os yn bosib neu eu rhoi yn yr ystafell ymolchi gyda'r drws ar gau a'r ffenestr ar agor neu rhowch ffan echdynnu ymlaen
  • sicrhewch fod gan eich sychwr dillad dwll awyr i'r tu allan (gallwch brynu citiau DIY ar gyfer hyn) oni bai ei fod yn fath hunan-anweddu 

Trin llwydni

Os ydych yn sylwi ar lwydni'n tyfu yn eich cartref, dylech ei drin ar unwaith er mwyn ei atal rhag lledaenu ac achosi mwy o ddifrod i'ch cartref.

  • PEIDIWCH â defnyddio cannydd i drin llwydni
  • ewch ati i sterileiddio'r man yr effeithir arno gyda golchiad ffyngladdol (ar gael o'r rhan fwyaf o siopau DIY) - sicrhewch eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  • gwiriwch y man yr effeithir arno am wythnos ac os oes angen, dylech drin y man eto
  • bydd defnyddio paent gwrth-lwydni ar y waliau a'r nenfydau yn helpu i atal y llwydni rhag dychwelyd

Sut gallwn helpu

Os ydych chi'n cael problemau gydag anwedd a llwydni, cysylltwch â'r Ganolfan Alwadau Atgyweiriadau Tai cyn gynted â phosib. Byddwn yn ymweld o fewn 5 niwrnod gwaith i wneud asesiad cychwynnol o'r broblem. Byddwn yn gwneud unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol. Byddwn hefyd yn cynnig cyngor a gwybodaeth i chi ar sut i reoli anwedd a llwydni.

Rydym yn deall efallai na fydd yn hawdd cadw'ch cartref yn gynnes oherwydd costau byw uchel a phrisiau tanwydd uchel ar hyn o bryd. Os oes angen cymorth a chyngor arnoch gyda'ch biliau, mae gwybodaeth ar gael ar ein gwefan: Cymorth Costau Byw

Gallwch hefyd gysylltu â'ch Swyddog Cymdogaeth neu'r Tîm Rhenti am gyngor. Gall y Tîm Rhenti ddarparu cyngor ar hawl i fudd-daliadau a sut i wneud yn fawr o'ch incwm.

Close Dewis iaith