
Prom Abertawe
Mwynhewch ddiwrnod mas gwych ar hyd Prom Abertawe.
Mae Prom Abertawe, gyda'i amrywiaeth o atyniadau ynghyd ag ehangder 5 milltir Bae Abertawe, yn gyrchfan gwych i ymwelwyr a thrigolion o bob oed.
Dewch i fwynhau'r pedalos elyrch a dreigiau ar Lyn Cychod Singleton, rownd o golff ar gwrs Taro a Phytio Heol Ashleigh, neu rhowch gyfle i'r plant chwarae yn Lido Blackpill a Gerddi Southend, gyda Thrên Bach Bae Abertawe yn cysylltu pob un.

Lido Blackpill
Treuliwch brynhawn heulog gyda'r teulu ym mharc dŵr awyr agored Abertawe.

Trên Bach Bae Abertawe
Trên tir 72 sedd yw Trên Bach Bae Abertawe, sy'n teithio ar hyd promenâd Abertawe, o Lido Blackpill i Erddi Southend, y Mwmbwls, gan gynnig golygfeydd gwych o fae godidog Abertawe i deithwyr

Gerddi Southend
Parc cymunedol gwych yn y Mwmbwls. Eisteddwch yn ôl a mwynhau'r olygfa dros Fae Abertawe wrth i'r plant gael hwyl ar y cyfleusterau chwarae gwych

Llyn Cychod Singleton
Mae Llyn Cychod Singleton ar waelod Lôn Sgeti rhwng Ysbyty Singleton a Phrifysgol Abertawe, o fewn pellter cerdded i Barc Singleton
Golff-troed Abertawe
Mae cyfleuster taro a phytio Heol Ashleigh wedi'i drawsnewid yn atyniad golff-troed