Newidiadau i'r rhwydwaith llwybrau
Gellir creu, dargyfeirio neu gau Hawliau Tramwy Cyhoeddus drwy orchymyn cyfreithiol yn unig.
Mae'r 'gorchymyn llwybr cyhoeddus' mwyaf cyffredin yn cynnwys:
Dargyfeiriadau - dargyfeirio llwybr troed neu lwybr ceffyl yn barhaol er lles tirfeddianwyr, preswylwyr neu'r cyhoedd.
Creu - ychwanegu llwybr newydd at y rhwydwaith, gyda neu heb gytundeb y tirfeddiannwr.
Addasu - mae hyn fel arfer yn ymwneud ag ychwanegu llwybrau at y rhwydwaith oherwydd nad yw llwybr troed neu lwybr ceffyl yn cael ei ddangos ar y Map Diffiniol ond mae tystiolaeth yn awgrymu y dylai fod. Fodd bynnag, gellir gwneud addasiadau hefyd i newid neu ddileu llwybrau cerdded neu lwybrau ceffyl o'r Map Diffiniol.
Diddymu - cau llwybr troed neu lwybr ceffyl yn barhaol. Gall tirfeddiannwr wneud cais am hyn neu gall y cyngor ddechrau'r broses. Mae diddymiadau'n brin iawn.
Bydd y rhan fwyaf o orchmynion dargyfeirio a diddymu'n mynd trwy'r un weithdrefn sylfaenol:
- Cais
- Ymgynghoriad anffurfiol
- Os yw'r gorchymyn yn ymddangos yn ddadleuol neu'n cael gwrthwynebiadau nad ydynt yn cael eu tynnu'n ôl, bydd adroddiad yn mynd gerbron yr is-bwyllgor hawliau tramwy
- Os caiff ei gymeradwyo, ymgynghoriad ffurfiol
- Caiff y gorchymyn ei wneud a'i hysbysebu
- Cyfnod gwrthwynebu
- Caiff gorchmynion diwrthwynebiad eu cadarnhau a'u hysbysebu
- Caiff gorchmynion a wrthwynebir eu hanfon at yr Ysgrifennydd Gwladol am benderfyniad.
Mae'n amlwg bod nifer o gamau yn y broses, (rhai ag amserlenni penodol) felly gall gymryd amser maith i ddargyfeirio neu ddiddymu Hawl Tramwy Cyhoeddus. Hefyd, nid oes sicrwydd y bydd cais yn llwyddo.
Ffurflen Cais am Ddargyfeiriad (Word doc) [744KB]
Ymgymerir â chytundebau creu lle mae'r tirfeddiannwr am gyflwyno hawl tramwy cyhoeddus newydd trwy gydgytundeb ac nid oes angen iddynt fynd trwy'r un broses â gorchymyn.
Gall tirfeddianwyr wneud cais i'r cyngor i hawl tramwy cyhoeddus sy'n mynd ar draws eu tir gael ei dargyfeirio neu ei diddymu. Mae ffi weinyddu i dalu am holl gostau gwneud y gorchymyn ac mae'n rhaid i'r ymgeisydd dalu costau hysbysebu'r gorchymyn hefyd.
Cau dros dro
Gall hawliau tramwy gael eu cau dros dro i ddiogelu defnyddwyr pan mae gwaith yn cael ei wneud ger y llwybr neu os yw'r arwyneb wedi cael ei ddifrodi. Gall y gorchmynion hyn fod ar waith am hyd at chwe mis a gellir eu hestyn ymhellach yn ôl disgresiwn Llywodraeth Cymru.
Cais i gau llwybr dros dro Cais i gau llwybr dros dro
Hawliau tramwy a hawlir
Gall aelodau'r cyhoedd gyflwyno cais i ychwanegu llwybr at y map diffiniol - hawliad yw'r term am hyn.
Ar ôl derbyn hawliad, mae'n rhaid i'r cyngor ei asesu trwy ystyried y dystiolaeth a ddarperir. Fel arfer, y dystiolaeth a ddarperir gan yr hawlwyr fydd datganiadau sydd wedi'u cwblhau gan aelodau'r cyhoedd sy'n honni eu bod wedi defnyddio'r llwybr. Mae'n rhaid i'r fath dystiolaeth gan ddefnyddwyr ddangos bod y llwybr wedi cael ei ddefnyddio'n barhaus am o leiaf 20 mlynedd gan y cyhoedd. Cyfrifir y cyfnod 20 mlynedd trwy weithio'n ôl o'r dyddiad pan heriwyd y llwybr gan y tirfeddiannwr. Felly os cafodd llwybr ei atal ym mis Medi 2013, y cyfnod 20 mlynedd fyddai o fis Medi 1993 tan fis Medi 2013. Nid oes angen dangos bod pob hawliwr wedi defnyddio'r llwybr am ugain mlynedd, dim ond bod y cyhoedd yn gyffredinol wedi defnyddio'r llwybr.
Os penderfynwn fod digon o dystiolaeth ar gael, byddwn yn cyhoeddi gorchymyn addasu i ychwanegu'r llwybr at y map diffiniol. Ceir cyfnod chwe wythnos i gyflwyno gwrthwynebiadau i'r gorchymyn addasu. Os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau erbyn diwedd y cyfnod chwe wythnos, caiff y gorchymyn ei gadarnhau a chaiff y llwybr ei ychwanegu at y map diffiniol. Fodd bynnag, mae'n arferol derbyn gwrthwynebiadau i orchymyn ac os digwydd hynny, mae'n rhaid cyflwyno'r gorchymyn a'r gwrthwynebiadau i'r Arolygiaeth Gynllunio i'w hystyried.
Ffurflenni ar gyfer hawlio hawl tramwy cyhoeddus (Word doc) [1MB]
Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflenni hawlio hawl tramwy cyhoeddus (Word doc) [88KB]
Ffurflen Dystiolaeth (Word doc) [97KB]
Mae dyddiadau'r pwyllgor ar gael ar dudalen y pwyllgor cynllunio.