Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth i Blant a Theuluoedd
Os ydych yn gofidio am blentyn neu berson ifanc, gallwch gysylltu â ni i drafod hyn ac i gael cymorth.
Coronafeirws a diweddariadau gofal cymdeithasol
Gellir cysylltu â'r Gwasanaeth Gwybodaeth Cyngor a Chymorth Integredig i Blant a Theuluoedd drwy ffonio 01792 635700 neu e-bostio: mynediadiwybodaeth@abertawe.gov.uk ond gan fod y tîm GCaChI yn derbyn nifer digynsail o alwadau, oni bai fod eich galwad yn ymwneud â risg sylweddol o niwed neu risg i fywyd plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â ni drwy e-bost.
Diolch am gysylltu â ni...
Mae'r tîm hwn yn delio â'r holl ymholiadau ac atgyfeiriadau cychwynnol sy'n ymwneud â phlant mewn angen, gan gynnwys materion amddiffyn plant.
Gall unrhyw un gysylltu â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (GCC) i Blant a Theuluoedd i gael trafodaeth a chael cymorth. Bydd gweithiwr cymdeithasol cymwys yn gwrando arnoch chi ac yn dweud wrthych ba wybodaeth, cyngor neu gymorth y gellir ei ddarparu a phwy all eich helpu o'r gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, troseddau ieuenctid, addysg, ymyrryd ac atal cynnar, yr heddlu a'r trydydd sector. Bydd yr hyn y gallwn ei drafod â chi ynglŷn â phlentyn penodol yn dibynnu ar y rheswm a'r amgylchiadau dros eich galwad ffôn.
- Gwybodaeth- Gallwn ddarparu gwybodaeth am wasanaethau cymorth cyffredinol, cymunedol ac ataliol i alluogi pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am eu lles. Nid oes rhaid i chi ddarparu manylion y plentyn na'r teulu i dderbyn gwybodaeth.
- Cyngor - Os oes anghenion penodol gan blant neu deuluoedd, gallwn ddechrau asesiad drwy gael trafodaeth 'Yr Hyn sy'n Bwysig i Mi' i gynorthwyo teuluoedd a/neu weithwyr proffesiynol wrth ystyried sut i wella eu hamgylchiadau. Gallwn ystyried yr opsiynau sy'n gallu tarddu o ffrindiau a theuluoedd, o weithiwyr proffesiynol neu o unrhyw wasanaeth ymyrryd ac atal cynnar arall.
- Cymorth - Hwn yw pan fydd person yn gweithredu gyda theulu i'w helpu neu i gyrchu gwasanaethau cymorth ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd. Gyda chaniatâd rhieni/gofalwyr, gall y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth(GCC) atgyfeirio'n uniongyrchol i wasanaeth ar ran y teulu neu gall drefnu cyfarfod er mwyn nodi'r cymorth priodol.
Dewch o hyd i sut rydym yn darparu cymorth, cyngor a chefnogaeth...
Cysylltwch â Ni
Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth i Blant a Theuluoedd
Ffôn: 01792 635700
Cyfeiriad e-bost: access.information@swansea.gov.uk
Oriau agor:
8.30am tan 5.00pm, dydd Llun i ddydd Iau
8.30am - 4.30pm dydd Gwener.
Os yw'ch achos yn agored i weithiwr cymdeithasol ffoniwch 01792 635180.
Mewn sefyllfa argyfwng lle gall oedolyn neu blentyn fod mewn perygl uniongyrchol o niwed ffoniwch 999.
Mae'r Tîm Dyletswydd Brys ar gael y tu allan i'r oriau gwaith arferol ar 01792 775501.
Os ydych yn e-bostio y tu allan i'r oriau gwaith arferol, byddwch yn ymwybodol yr ymdrinnir â'ch ymholiad ar y diwrnod gwaith nesaf.