mathau o faethu

mathau o faethu

mathau o ofal maeth

Gall gofal maeth fod yn ofal tymor byr neu’n ofal tymor hir. Mae’r ddau fath o ofal maeth yn golygu darparu amgylchedd diogel a sefydlog i blant. Rhywle i’w alw’n gartref.

Gall pobl o bob cefndir ddod yn ofalwyr maeth – mae amrywiaeth yn rhywbeth rydyn ni’n ei ddathlu yma yn Maethu Cymru Abertawe. Mae pob teulu maeth yn wahanol – rydyn ni’n cydnabod hynny. Mae gennyn ni wahanol fathau o ofal maeth, felly gallwch ddod o hyd i ddewis sy’n gweithio i chi.

gofal maeth tymor byr

Gall gofal maeth tymor byr fod am gyn lleied ag awr neu hyd at flwyddyn gyfan! Mae’n drefniant sydd ar waith ar gyfer plentyn sydd angen cartref dros dro wrth i’w gynllun tymor hwy gael ei ystyried.

Happy senior man smiling with young boy on shoulders

Fel gofalwr maeth tymor byr, byddwch yn gweithio gyda ni wrth i ni sicrhau dyfodol y plentyn yn eich gofal. Byddwch yno i’r plentyn pan fydd eich angen chi arno, a byddwch yn ei helpu i symud ymlaen i beth bynnag sy’n dod nesaf – ei deulu, teulu maeth newydd, neu fabwysiadu efallai.

Single female with sibling group

Does dim ots pa mor fyr yw arhosiad tymor byr, mae’n werth y byd. Gall pob awr wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn a darparu llwybr at ddyfodol gwell.

gofal maeth tymor hir

Family playing a card game

Mae gofal maeth tymor hir yn rhoi cartref newydd a theulu newydd i blentyn, yn aml nes bydd yn tyfu’n oedolyn.

Female foster carers with teenager girl

Mae plentyn yn cael ei baru’n ofalus â’r gofalwr iawn ar gyfer ei anghenion, gyda’r nod o ddarparu sefydlogrwydd tymor hir. Mae gofal maeth tymor hir yn cynnig teulu maeth diogel i blentyn am oes.

mathau arbenigol o ofal maeth

Gall gofal maeth tymor byr a thymor hir gynnwys amrywiaeth o fathau arbenigol o ofal maeth hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

Female carer with brother and sister

seibiant byr

Mae seibiant byr yn galluogi plant i gael seibiant o gartref eu teulu, gan roi amrywiaeth o brofiadau a chyfleoedd newydd iddyn nhw.

Weithiau, mae seibiant byr yn cael ei alw’n ‘ofal cymorth’, a gall olygu unrhyw beth o ychydig oriau i aros dros nos neu benwythnos cyfan efallai. Mae seibiant byr yn cael ei gynllunio ymlaen llaw yn aml, ac mae’n gyfle i blant a theuluoedd gael hoe fach yn rheolaidd. Gall hyn gael effaith gadarnhaol ar y ddwy ochr.

Single dad with baby

rhiant a phlentyn

Mae lleoliadau rhiant a phlentyn yn cael eu cynnig i rieni sydd angen cefnogaeth ychwanegol i ofalu am eu plentyn. Mae’r math hwn o faethu yn golygu y byddwch chi’n arwain ac yn cefnogi rhieni drwy eu taith magu plant, wrth iddyn nhw ddatblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnyn nhw. Byddwch yn eu hannog mewn amgylchedd sefydlog nes eu bod yn gallu symud ymlaen i fod yn annibynnol gyda’u plentyn.

Brother and sister playing guitar

gofal therapiwtig

Efallai bod angen gofal therapiwtig ar blant sydd ag anghenion ymddygiadol neu emosiynol mwy cymhleth. Mae’r math hwn o ofal yn sicrhau bod plant yn cael y gefnogaeth ychwanegol sydd ei hangen arnyn nhw. Fel gofalwr therapiwtig wedi’i hyfforddi, byddwch yn dysgu sut i ofalu am y plant hyn yn briodol. Byddwn yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i chi i wneud yn siŵr eich bod yn teimlo’n gyfforddus ac yn abl.

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch

  • Os ydych chi’n bwriadu gofyn am becyn gwybodaeth, gofyn cwestiwn neu gymryd y cam cyntaf tuag at ddod yn ofalwr maeth, rydyn ni yma i helpu. Llenwch y ffurflen isod a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi.