Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Rheoliadau ac archwiliadau hylendid bwyd

Mae'n rhaid cadw at reoliadau a gall swyddogion Iechyd yr Amgylchedd neu'r Safonau Masnach archwilio'r gofynion cyfreithiol hyn.

Reoliadau hylendid bwyd

Reoliadau hylendid bwyd yn effeithio ar bob busnes bwyd, gan gynnwys arlwywyr, cynhyrchwyr cynradd (megis ffermwyr), gwneuthurwyr, dosbarthwyr a manwerthwyr. Bydd sut mae'r ddeddfwriaeth yn effeithio arnoch yn dibynnu ar faint a math eich busnes.

Mae yna nifer o Reoliadau'r UE, sy'n uniongyrchol berthnasol i fusnesau bwyd yn y DU, a hefyd ddeddfwriaeth genedlaethol yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Mae gwefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnwys arweiniad cryno ar y newidiadau i'r ddeddfwriaeth, gan gynnwys pecynnau arbennig wedi'u cynllunio i helpu busnesau arlwyo bach i gydymffurfio â'r rheoliadau.

Archwiliadau cyfraith bwyd

Mae gan swyddogion iechyd amgylcheddol a swyddogion safonau masnach hawl i fynd i mewn i adeiladau bwyd a'u harchwilio ar oriau rhesymol. Does dim rhaid iddynt wneud apwyntiad ac fel arfer byddant yn dod heb rybudd.

Maen nhw'n gweithredu archwiliadau arferol ac mae'n bosib y byddant yn ymweld yn achos cwyn. Mae amlder archwiliadau arferol yn dibynnu ar risg posib y math o fusnes a'i record flaenorol. Mae rhai adeiladau yn cael eu harchwilio bob chwe mis a rhai eraill yn llai aml.

Bydd archwilwyr yn edrych ar sut mae'r busnes yn gweithio i adnabod peryglon posib ac i wneud yn sicr ei fod yn cydymffurfio â'r gyfraith. Byddant yn trafod unrhyw broblemau gyda'r perchennog a'i gynghori ar atebion posib. Hefyd mae ganddynt bwerau y gallant eu defnyddio pan fyddant yn ystyried bod angen gwarchod y cyhoedd. Mae pwerau archwilwyr yn cynnwys:

  • cymryd samplau a ffotograffau
  • arolygu cofnodion
  • Sgrifennu at y perchennog yn anffurfiol gan ofyn iddo ddatrys unrhyw broblemau a ddarganfyddwyd
  • cyflwyno rhybuddion gwella lle nodir achosion o dorri'r gyfraith
  • cadw neu atafaelu bwyd amheus
  • argymell erlyniad mewn achosion difrifol. Os yw erlyniad yn llwyddiannus, mae'r llys yn gallu gosod gwaharddiadau ar brosesau a defnyddio adeiladau ac offer, dirwyon ac o bosib, carchariad
  • Cyflwyno rhybuddion gwahardd ar frys yn achos argyfwng, sy'n gwahardd defnyddio'r adeiladau neu'r offer. Mae rhaid i'r llys gadarnhau'r rheiny.

Bydd archwilwyr bob amser yn dangos gwahaniaeth clir rhwng yr hyn a argymhellir am ei fod yn arfer da â'r hyn sydd angen ei wneud i gydymffurfio â'r gyfraith. Rhoddir amser rhesymol bob amser fel bod y perchennog yn gallu cwrdd â'r gofyniadau statudol, oni bai fod risg uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.

I gael mwy o wybodaeth am archwiliadau hylendid bwyd cysylltwch â'r tîm diogelwch bwyd. 

Close Dewis iaith